Tudalen:Hanes Methodistiaeth Corris a r Amgylchoedd.djvu/106

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

uwchlaw pawb am gychwyniad y Gymdeithas a wnaeth gymaint o ddaioni yno o hyny hyd yn awr. Dyddorol fyddai hanes y diwygiad dirwestol yno am y deg neu yr ugain mlynedd cyntaf, oblegid anhawdd ydyw cyfleu syniad i'r rhai nad ydynt yn ei gofio am y gwres angerddol oedd y pryd hwnw gyda'r achos. Pan yn dechreu siarad yn gyhoeddus dros ddirwest, dywedai Morris Jones y byddai yn anhawdd cyn pen dwy flynedd i neb gael lle yn eglwys Dduw heb fod yn llwyrymwrthodwyr; ond yr oedd ei ragfynegiad yn wirionedd perffaith. Daeth llwyrymwrthodiad yn fuan yn amod aelodaeth yn eglwys y Methodistiaid ; ac y mae y caerau a gyfodwyd y pryd hwnw wedi eu cadw i fyny i fesur mawr ar hyd y blynyddoedd. Ymddengys y fath lymder yn gwbl afresymol i eglwysi mewn ardaloedd eraill; ond mwynhaodd eglwysi yn Corris ar amgylchoedd dangnefedd tra dymunol wedi cau y diodydd meddwol yn gwbl o'r tu allan. Ar peth tra gwerthfawr mewn cysylltiad â'r mater ydoedd nad oedd y rheol oddiallan yn ddim ond ffrwyth yr egwyddor a goleddid oddifewn. Enillwyd yr holl aelodau i goleddu egwyddorion mor gryfion fel y daeth y rheol yn ganlyniad anocheladwy: a pharhawyd i ddwyn y plant i fyny yn yr un egwyddorion gyda ffyddlondeb mawr ar hyd y blynyddoedd. Ar y cyfan, dichon na cheir cymydogaeth yn Nghymru sydd wedi bod yn fwy gwastad yn ei ffyddlondeb i ddirwest; canys heblaw cyfarfodydd mynych yn y gwahanol gapelau, y mae yr Wyl Ddirwestol wedi ei chynal yn ddifwlch ar Ddydd Iau Dyrchafael o'r cychwyn, oddieithr yn 1860, pryd, fel y crybwyllwyd eisoes, y cynhaliwyd Cyfarfod Pregethu Undebol yn ei lle. Ond cofier yn barhaus mai Morris Jones ydyw tad y symudiad dirwestol yn Nghorris a'r amgylchoedd.

Wedi dechreu siarad yn gyhoeddus dros ddirwest, amlygodd yn fuan duedd at y weinidogaeth. Ar y cyntaf, nid oedd ei frodyr yn credu yn gryf yn ei gymwysderau i'r cylch hwnw, nid oherwydd unrhyw amheuaeth am ei alluoedd meddyliol na'i