Tudalen:Hanes Methodistiaeth Corris a r Amgylchoedd.djvu/107

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

wybodaeth, ond yn benaf am nad oedd ei ddawn i draddodi, ac yn enwedig ei lais, y mwyaf dymunol. Ond fel y dywed Rowland Evans yn ei Gofiant yn y Drysorfa, Chwefror, 1841, pan ollyngwyd ef i redeg, deallwyd yn fuan fod ganddo genadwri dda. Fel hyn y cyfeiria R. E. at ei bregeth gyntaf

"Pan yn cadw yr oedfa gyhoeddus gyntaf, dywedodd y barnai fod yno lawer yn cofio ei hen ffyrdd ef, a'i fod yntau hefyd yn gorfod cofio am danynt er ei alar; a pha beth bynag oedd o ran ei gyflwr a'i alwad i'r gwaith, na welid byth mohono mwy, trwy gymorth gras, yn y pyllau y bu ynddynt; a mawr yr effaith a gai ei ddywediad ar y gwrandawyr. Ac ychwanegir y sylwadau canlynol ar nodweddau ei weinidogaeth: Dangosodd yr Arglwydd trwy arwyddion amlwg ei fod o'i anfoniad ef. Yr oedd ei weinidogaeth yn hynod o fuddiol; a sicr yw—fod llawer wedi eu galw trwyddi, y rhai yr oedd arnynt arwyddion amlwg o dduwioldeb. Yr oedd efe hefyd yn dra adeiladol i'r eglwys, mewn cryfhau egwyddorion a chynyddu profiadau y saint. Trinai bob amser ei faterion yn oleu a deallus. Defnyddiai gymhariaethau addas a syml i ddangos ei feddwl. Ni arferai eiriau ysgafn ac anysgrythyrol, ond argyhoeddai ni am arfer geiriau o'r fath gyda phethau crefyddol, gan ddweyd nad oedd bosibl cael cystal geiriau a rhai y Beibl.

Byr iawn fu ei oes fel pregethwr, sef o Awst, 1836, hyd Chwefror, 1840; ond gweithiodd yn galed tra y parhaodd ei ddydd. Awgrymwyd nad oedd yn ddifeddwl pan yn byw yn annuwiol. Y pryd hwnw, teimlodd duedd gref at yr athrawiaeth Arminaidd, a siaradodd lawer drosti yn yr Ysgol Sabbothol yn y Tŷ Uchaf, ac wrth y pregethwyr a ddeuent yno yn achlysurol; aeth ati hefyd i barotoi llyfr i'w hamddiffyn, ond argyhoeddwyd ef tra wrth y gorchwyl hwnw mai Calfiniaeth wedi'r cwbl oedd yn iawn, ac ni chlywyd mwyach sôn ganddo am Arminiaeth. Ymroddodd, maen amlwg, i fod yn efrydydd caled; a dywedir gan R. E. yn y Drysorfa na byddai braidd