Tudalen:Hanes Methodistiaeth Corris a r Amgylchoedd.djvu/109

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

erioed yn yr ardal dan amgylchiadau a theimladau mor gyffrous. Mae yr ychydig o'r gwrandawyr sydd yn fyw yn cofio am dani hyd heddyw. Y testyn oedd Caniad Solomon ii. 3, "Bu dda genyf eistedd dan ei gysgod ef", &c. Yr oeddwn yn petruso yn fawr, meddai y pregethwr, pan y clywais ar y ffordd wrth ddyfod i fyny o Fachynlleth, pa un a wnawn a'i dyfod ymlaen a'i peidio, ond daeth y geiriau hyn i'm meddwl, ac yr oeddwn yn teimlo mai tra hapus oedd bod dan ei gysgod ef pan oedd cylymau y creigiau yna yn gollwng.

Mae yn dda genym gael cyflwyno i'r darllenydd y bregeth olaf o eiddo Morris Jones. Er mor uchel y llefarai pawb am dano, rhaid i ni addef na roddodd neb i ni syniad mor uchel am ei alluoedd ag a gawsom trwy ddarlleniad y bregeth hon yn y Drysorfa, am Mawrth, 1842, wedi ei chodi o'i lawysgrif ef ei hun gan y diweddar Barchedig Humphrey Eyans, Ystradgwyn. Mae delw duwinyddiaeth y cyfnod yn amlwg arni; a rhai pethau yn cael eu dywedyd ag y mae yn bosibl na chlywir hwy mwyach yn y ffurf y ceir hwynt yma; ond y mae yn syndod fod y fath bregeth wedi ei chyfansoddi gan ŵr mor amddifad o bob manteisioin addysg ag efe, a hyny pan nad ydoedd wedi bod yn pregethu ond llai na phum mlynedd, ac nad ydoedd ond 34 mlwydd oed. Ni chafodd ddiwmod o ysgol ddyddiol erioed; a thrwy ei ymdrech ei hun, wedi tyfu i fyny, y dysgodd ysgrifenu. Un o droion tywyllaf rhagluniaeth Duw ydyw i ŵr o alluoedd ac ymroddiad mor hynod gael ei gymeryd ymaith o ganol y fath ddefnyddioldeb mor gynar yn ei oes. Efe oedd y pregethwr cyntaf a gyfodwyd yn Nghorris; ac y mae gan yr eglwys yn Rehoboth reswm i fod yn falch o hono ymben mwy na deugain mlynedd wedi ei gladdu. Yr oedd ei frawd, Robert Jone; Machine, yn aros hyd o fewn ychydig flynyddoedd yn ol. Wele y bregeth:

"Ac megis y gosodwyd i ddynion farw unwaith, ac wedi hyny bod barn." Heb. ix. 27.

Y mater sydd gan yr Apostol, yn niwedd y benod hon, ydyw profi