Tudalen:Hanes Methodistiaeth Corris a r Amgylchoedd.djvu/110

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

fod aberth Crist yn tra rhagori ar yr holl aberthau dan y ddeddf seremoniol, a bod y Testament Newydd wedi ei gadarnhau â gwaed,—y testamentwr wedi marw, gan hyny fod yr holl addewidion mewn grym.

Pan oedd Moses yn cadarnhau cyfamod Sinai rhwng Duw a'i bobl, efe a gymerodd waed lloi a geifr, ac a'i cymysgodd gyda dwfr, i'w wneyd yn deneu; wedi hyny cymerodd sypyn o wlan porphor i'w sugno i fyny o'r cawg, a thusw o isop i'w daenellu yn ddafnau, ac a daenellodd un haner iddo ar y llyfr, yr hwn oedd yn agored ar yr allor, i'w gysegru i wasanaeth sanctaidd, fel yn cynwys y cyfamod yr oedd Duw yn un blaid ynddo; ar haner arall ar y bobl oll, neu, feallai, eu cynrychiolwyr, y deg a thriugain, fel y blaid arall. Yr oedd yn hyn hefyd lanhâd cysgodol oddiwrth halogrwydd seremoniol, ac feallai fod y cymysgiad o ddwfr a gwaed yn cysgodi y dwfr ar gwaed a ddaeth o'i ystlys sanctaidd ef, y gwaed sydd yn glanhau oddiwrth bob pechod. Trwy ei waed ef y cadarnhawyd y Cyfamod Gras, rhwng Duw yn Nghrist a'r holl gredinwyr, ac y mae ei addewidion yn ie ac yn amen ynddo ef i'r holl rai a gredant. Aberthodd Crist ei hun unwaith, a gwnaeth anfeidrol fwy yr unwaith hwnw na'r holl aberthau a laddwyd er dechreuad y byd; unwaith yn niwedd y byd yr ymddangosodd efe, i ddileu pechod, trwy ei aberthu ei hun. Yr oedd Crist yn feddianol ar natur y troseddwr, yr hyn nid oedd yr aberthau eraill. Pan oedd cleddyf cyfiawnder wedi deffro yn ei erbyn ef, yr oedd wedi deffro yn erbyn y natur a bechodd; ac yr oedd undeb y ddynoliaeth â pherson anfeidrol Mab Duw yn peri ei bod yn abl i gynal ergydion dwyfol gyfiawnder. Marw oedd y gosb osodedig am bechu, ac wrth ddioddef cospedigaeth ei bobl bu Crist farw unwaith. Nis gallasent hwy byth ddioddef hyd eithaf y gofynion, ond dioddefodd Crist nes talu yr hatling eithaf. Nis gallasai fod haeddiant yn eu dioddefiadau hwy, ond yr oedd anfeidrol werth a haeddiant yn nioddefiadau Crist, canys yr oedd y gyfraith yn ei galon ef, a chariad pur oedd yn ei ysgogi i ddioddef y cwbl. Yr oedd mawredd ei berson, y sefyllfa yr oedd ynddi, ynghyd â'r egwyddor oedd yn ei gymell, yn peri fod anfeidrol werth yn yr hyn oll a wnaeth. Trwy farw unwaith fe ddygodd ymaith bechodau llawer.

Oddiwrth y testyn sylwaf ar y ddau fater canlynol :

I. Marw. II. Yr hyn sydd yn ei ganlyn.

I. Marw. Dywedir yma ei fod yn osodiad; ac mewn perthynas iddo sylwaf,