Tudalen:Hanes Methodistiaeth Corris a r Amgylchoedd.djvu/112

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

y gall y feichiog ddianc rhag gofidiau esgor. Chwant wedi ymddwyn a esgor ar bechod; pechod hefyd pan orphener a esgor ar farwolaeth. Yr unig ffordd i ddianc rhag marw ydyw cael gwaredigaeth oddiwrth bechod. Y rhai a waredir odditan lywodraeth pechod a ddiangant yn hollol rhag yr ail farwolaeth, ond er bod Crist ynddynt, y mae y corff yn farw oherwydd pechod, i amlygu llidiawgrwydd anghymodol Duw tuag at bechod. Fe gyflawnir y ddedfryd, "I'r pridd y dychweli", hyd yn nod ar eiddo Crist ei hunan: ond fe droir hyny yn elw iddynt hwy.

(3.) Y mae yn osodiad grymus. Mae grym Hollalluog o'i blaid, i'w ddwyn i weithrediad. Mae llawer gosodiad wedi eu rhoddi ymysg dynion, ond yr oedd eu gosodwyr yn rhy weiniaid i'w rhoddi mewn gweithrediad. Gosodwyd unwaith yn Ffrainc na byddai y Sabbath ond unwaith yn y deng niwrnod; methwyd a dyfod a hyny i ben. Yr oedd y gosodwyr yn rhy wan. Llifeiriant yw y gosodiad hwn nad oes neb yn abl sefyll o'i flaen. Nid ydyw cyfoeth, na dagrau, na chwynion, na galar, wylofain, nac ympryd, yn ddigon i dori grym y gosodiad hwn.

(4.) Gosodiad unigol ydyw, Marw unwaith. Mae llawer peth y cawn gyfarfod a hwy fwy nag unwaith, cawn ddiwrnod ar ol diwrnod, noswaith ar ol noswaith, haf ar ol haf, a gauaf ar ol gauaf, ond ni chawn farw ond unwaith. Mae marw i'r annnwiol yn nos na ddaw byth ddydd ar ei hol; mae marw i'r duwiol yn ddydd na ddaw byth nos ar ei ol.

3. Yr achos o'r gosodiad. Yr achos ydyw cyfiawnder ac uniondeb. y Duwdod. Copy o ddelw Duw ydyw ei gyfraith, dangosiad amlwg o'r hyn ydyw. Ac yn y rhagolwg y byddai i'w gyfraith gael ei throseddu, yr oedd ei gyfiawnder a'i uniondeb diwyrni tuag ato ei hun yn ei rwymo i ragosod cosb briodol i'r trosedd, ond y trosedd ei hun a ddygodd y gosodiad i weithrediad. Buasai yn aros yn dragwyddol lonydd a digyffro oni buasai bechod. Mae cosb osodedig yn hanfodol i bob cyfraith, onide nid yw yn gyfraith: eto, nid oes achos i'r un o'r deiliaid ofni'r gosb hono. Tra y parhaont heb droseddu y gyfraith, nid oes gan y gosodiad cospawl un hawl i afael ynddynt. Ac ni buasai y gosodiad hwn mewn grym ar neb o'r hil ddynol oni buasai pechod. Colyn angeu yw pechod.

4 A phwy y mae y gosodiad yn dwyn perthynas. Gosodwyd i ddynion farw unwaith, nid i ddynion fel creaduriaid, ond fel pechaduriaid. Oni buasai pechod, buasai dynion yn aros byth