Tudalen:Hanes Methodistiaeth Corris a r Amgylchoedd.djvu/113

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

mewn cymundeb â Duw, heb un ymadawiad, eu cyrff a'u heneidiau mewn tragwyddol undeb a'u gilydd. Nid oedd marw yn perthyn i ddyn mwy nag i angel, oni buasai bechod. Ond yn gymaint ag i ddynion bechu, cafodd y gosodiad rym i gydio gafael ynddynt. O ddynion! dyma osodiad fydd mewn grym byth ar bawb na ddygir i Iesu yn nghysgod y gwr fu farw i'r euog i gael byw. Gallwn sylwi oddiwrth hyn, yn

(1.) Mai y peth mwyaf difrifol a berthyn i ni ydyw y sefyllfa yr ydym ynddi yn bresenol,—o tan rwymau gosodiad i farw! Pe caem olwg arno yn ei fawredd a'i bwys, byddai yn sicr o gael y flaenoriaeth ar bob peth yn ein meddyliau.

(2.) Mae o bwys tragwyddol i ni ein bod yn ddynion. Mae creaduriaid eralll yn meirw, ond nid oes nemawr bwys yn eu marw hwy, oherwydd y mae yn ddiwedd iddynt; ond nid difodiad ydyw marw dynion. Nid tragwyddol gwsg ydyw chwaith. Symudiad i fyd arall ydyw marw. Bydd dynion yn fyw er marw. Pan yn cau eu llygaid ar fyd o amser, maent yn eu hagor ar fyd tragwyddol; dechreu byw y mae dynion wrth farw. Mae rhyw "wedi hynny" difrifol iddynt hwy.

(3.) Gan mai unwaith yr ydym i farw, nid oes genym ond un tymor i ymbarotoi, un farchnad i elwa, un diwrnod i hau, un haf, un cynhauaf; gan hyny, prif bwnc ein bywyd ddylai fod parotoi erbyn marw. Diwrnod gweithio yw y tymor byw. Y fynedfa i'r office i dderbyn y cyflog ydyw marw; a rhaid byw byth ar gyflog y diwrnod hwnw.

Un o ddeddfau amlwg natur, a rheol gyffredinol y Creawdwr yn ngwaith y greadigaeth ydyw, nad oes dim i gael ei ddifodi. Mae llawer o chwyldroadau yn cael eu dwyn oddiamgylch, a chyfnewidiadau yn cymeryd lle, ond nid oes dim yn cael ei ddifodi. Er cael eu newid o un ffurf i un arall, y maent yn bod. Mae natur yn barhaus yn dwyn oddiamgylch ei chyfnewidiadau; eto, nid ydynt ond yr un pethau yn cael eu cylchdroi. Nid oes dim newydd dan yr haul. Pe meddyliem am gnwd y ddaear, y naill dymor ar ol y llall, nid ydyw ond yr un, mae cnwd un flwyddyn yn dyfod i fyny, ac yn cael ei ddefnyddio, ac wedi hyny. yn dychwelyd i'r ddaear drachefn. Yr anifeiliaid, pedwar carnolion, ac ymlusgiaid, ffurfiwyd hwy o'r ddaear, cynhelir hwy gan y ddaear, a dychwelant i'r ddaear. Mae yr haul yn codi, a'r haul yn machludo, a'r lleuad yn cadw ei hamserau nodedig. Mae y dwfr yn dyfod o'r môr, ac