Tudalen:Hanes Methodistiaeth Corris a r Amgylchoedd.djvu/114

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn dychwelyd yno; mae y gwynt yn chwythu yn rymus weithiau, a phryd arall yn llai; ond nid ydyw hyn i gyd ond cyfnewidiadau.

Barna llawer o ymchwilwyr doethion a deallus, manwl a chywrain, yn y mater hwn, bod y Creawdwr mawr wedi gosod y fath ddeddfau mewn natur, fel y mae yn barhaus ymweithio ynddi ei hunan, i ddwyn oddiamgylch gyfnewidiadau. Gallai fod rhyw ymweithiad gan y dwfr yn nghrombil y ddaear o flaen y diluw, a rhyw ragbarotoi gan ffynhonau y dyfnder mawr i ymagoryd, fel y byddai i'r llifeiriant ymruthro allan. Gallai fod gan y tân yn bresenol ryw ymweithiad yn mherfedd y ddaear, a bod deddfau natur fel yn rhagbarotoi y byd hwn at gael ei losgi. Pa fodd bynag, y mae tân mawr yn y ddaear; ac feallai fod safnau y mynyddoedd tanllyd yn gynifer o bibellau i ollwng awyr i'w gryfhau, ac nad yw y daeargrynfau ond arwyddion o'r ymdaeniad; ac mai hwn, wedi iddo ymgryfhau digon, fydd yn ymruthro allan yn niwedd y byd, ac yn llosgi y ddaear ar gwaith a fyddo ynddi. Er y cyfnewidiadau a fo, ni ddifodwyd eto ddim; a pha gyfnewidiadau bynag a fydd eto ar y ddaear, mae yn debyg na ddifodir mo honi byth, ond y bydd nef newydd a daear newydd, mewn dull newydd, rhagorach a pherffeithiach, ei hagwedd yn harddach, a'i hawyr yn burach.

Yr un modd am danom ninau, ddynion. Pa amgylchiadau bynag y bydd raid i ni fyned trwyddynt, pa gyfnewidiadau bynag a gymer le arnom, ni fyddant oll yn alluog i'n gyru o fodolaeth. Yr ydym i fod byth, er marw: i ni y mae "wedi hyny bod barn."

Yr ydym yn bresenol yn dyfod i sylwi ar yr ail fater yn y testyn,

II. Yr hyn sydd yn canlyn marw, sef barn.

Pe na buasai dim ar ol marw, ni buasai nemawr o bwys yn yr amgylchiad, ond "ac wedi hyny bod barn." Barn ydyw dedfryd neu benderfyniad Barnwr. Wrth farn yn y lle hwn y mae i ni ddeall; yr edrych fydd i mewn i'n hachos, wedi i ni ymadael â'r byd hwn. Bydd barn bersonol a chyffredinol; yn y farn bersonol bydd pawb yn cael eu troi i'w lle eu hun am byth. Y Barnwr fydd yr Arglwydd Iesu Grist: mae hyn wedi ei osod iddo oherwydd ei fod yn Fab y dyn. Ni bydd angen am farn yno yn yr un ystyr ag yn y byd hwn, sef i ymchwilio i'r materion, i edrych pa un a'i euog a'i dieuog. Ni bydd angen am holi tystion i ddyfod ar materion i benderfyniad, oherwydd bydd y barnwr yn hollwybodol. Bydd pob mater yn eithaf hysbys iddo cyn ei ddwyn ger ei fron. Bydd un olygfa ar y byd tragwyddol yn rhoddi i bawb berffaith esboniad ar ei sefyllfa anghyfnewidiol.