Tudalen:Hanes Methodistiaeth Corris a r Amgylchoedd.djvu/115

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Y mynyd yr egyr y byd mawr ei ddorau o flaen dyn, bydd mewn un amrantiad yn deall pa le y bydd ei gartref yn oes oesoedd. Bydd achos pob dyn yn cael ei benderfynu, na bydd newid i fod arno, ar ei fynediad cyntaf i'r byd tragwyddol.

Ar ryw olwg, gellir dywedyd ei bod yn ddydd barn yn wastadol, oblegid y mae rhyw liaws mawr o ddynion yn dropio i'r byd tragwyddol yn barhaus; ond y mae yn amlwg yn y Beibl, pan y gorphenir holl oruchwyliaeth rhagluniaeth, y bydd barn gyffredinol, pryd y caiff holl hiliogaeth Adda, ynghyd â'r angylion syrthiedig hefyd, eu galw ymlaen i dderbyn eu dedfryd olaf, ac o hyny allan i dderbyn eu cyfiawn daledigaeth; canys ni bydd cosb y drygionus, na gwobr y cyflawn, yn gyfiawn hyd hyny. Gelwir yr adeg hono yn ddydd, ac yn ddydd mawr. Mae llawer dydd mawr wedi bod er dechreu y byd. Dydd mawr oedd y dydd y boddwyd y byd â diluw; dydd mawr oedd y dydd y dinystriwyd dinasoedd y gwastadedd; dydd mawr oedd y dydd y safodd yr haul ar lleuad; dydd mawr oedd y dydd y cymerodd y Rhufeiniaid Jerusalem; dydd mawr oedd y dydd y gorchfygodd Alexander ymerodraeth Persia a Media; dydd mawr oedd y dydd y lladdwyd Nelson yn Nhrafalgar, ac y dinystriwyd grym moryddol holl alluoedd cryfion Cyfandir Ewrop; dydd mawr oedd y dydd y gorchfygodd y Duc Wellington Buonoparte ar faes Waterloo; ond pe gellid enwi yr holl ddyddiau, ar gorchestion mawr a wnaed dan haul erioed, ni byddent oll ond rhyw oferedd gwâg wrth y dydd mawr a ddaw. O ddiwrnod digyffelyb! Dydd Iesu Grist, a dydd Duw y gelwir ef. Da fyddai i ni gofio yn ein dydd hwn y bydd y Barnwr yn mynu un dydd ar ol pawb.

Bydd rhyw fawredd anghydmarol ar holl amgylchiadau y dydd hwnw, oblegid yr Arglwydd ei hun a ddisgyn o'r nef gyda bloedd, a llef yr archangel, ac âg udgorn Duw. Clywir crochlef yr udgorn yn dadseinio holl gyrau y greadigaeth. Cynhyrfoir holl natur i gyd; treiddia y swn i waelodion y beddau, deffroir y meirw o'u cwsg hir; ar olygfa gyntaf a welaut fydd y Barnwr wedi sefydlu ei orsedd. fainc yn y cwmwl, a gosgordd ardderchog o angylion o'i amgylch, a hwythau yn cael eu galw ger ei fron. A byddwn ninau â'r llygad yma yn gweled yr olygfa; a bydd yr olwg fydd ar y gdr fydd ar y ewmwl, yn wahanol iawn i'r olwg oedd arno o flaen Pilat. Bydd Herod a'r archoffeiriaid, a henuriaid Jeriwsalem, yn gwelwi ac yn crynu wrth yr olwg arno. Byddant yn cofio y noswaith y buont yn ei arwain o lys i lys, gan ei wawdio a'i ddirmygu; a bydd hyny yn gnofeydd arteithiol iddynt.