Tudalen:Hanes Methodistiaeth Corris a r Amgylchoedd.djvu/116

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Sylwaf ar rai pethau mewn perthynas i'r Barnwr. Dywed Caryl ei fod i'w arswydo mewn pump o olygiadau (1.) Am na ddichon y grym mwyaf mo'i ddigaloni. (2.) Am na ddichon y cyfoeth mwyaf mo'i wobr—ddenu. (3.) Am na ddichon y ffraethineb na'r cyfrwysdra mwyaf mo'i ddyrysu. (4.) Am na bydd dim apelio oddiwrth ei ddedfryd. (5.) Am y bydd yn anmhosibl diddymu ei ddedfryd.

Gallaf finau ddywedyd y bydd ei ddedfryd mor gyfiawn na bydd gan neb ddim i'w feio arni. Os bydd yn galed ar rai, bydd yn gyfiawn ar bawb; ni rydd ar neb fwy nag a haeddai. Tal i bob un yn ol ei weithred. Bydd ei orsedd yn anfeidrol wen, a'i gyfiawnder yn tanbaid ddisgleirio yn dragwyddol ogoneddus.

Ychwaneg a allesid ei ddywedyd, ond yn

2. Y modd y bydd gwaith y dydd yn cael ei gario ymlaen. Pa hyd fydd y dydd. mae yn anmhosibl penderfynu. Mae yn debyg mai nid dydd o bedair awr ar hugain fydd. Meddylia rhai mai mil o flynyddoedd a fydd; tybia eraill y bydd yn parhau cyhyd ag y parhaodd amser; y goreu ydyw aros nes ceir gweled. Y gwaith cyntaf ar ol i'r Barnwr gymeryd yr orsedd fydd, galw yr holl dyrfa gerbron. A bydd yn rhaid i bawb ymddangos. Bydd golygon treiddgar y Barnwr yn cyniwair trwy holl gyrau y greadigaeth, fel y bydd yn anmhosibl llechu na ffoi o'i wydd. Yn ganlynol, fe ddidolir y rhai drwg oddiwrth y rhai da; ac fe osodir y rhai da ar ei ddeheulaw, ar rhai drwg ar yr aswy. Yna y Barnwr a ymlaen i ddadlenu holl ddigwyddiadau amser, ac i oleuo pob amgylchiad tywyll.

Byddaf yn meddwl y bydd y gwaith yn cael ei ddwyn ymlaen mor fanwl ag y bydd pob un yn cael ei alw ymlaen, megis wrth ei enw, ac y bydd y Barnwr yn darllen ar goedd y dorf fawr, holl ymddygiadau pob un ar ei ben ei hun. Byddaf yn meddwl mai hyn fydd diben y farn ddiweddaf. O ran gwneyd ail brawf, ni bydd angen am dani, gyda golwg ar y duwiolion na'r aunuwiolion eilwaith; ond rhag i un digwyddiad nac amgylchiad aros dan leni o dragwyddol dywyllwch. fe oleua y Barnwr ddirgelion y tywyllwch, ac a eglura fwriadau y calonau.

Bydd hyn yn peri mwy o ofid i'r annuwiol, yr holl ddibenion gau yn cael eu datguddio, yr holl bechodau yn cael eu cyhoeddi, yr holl golliadau yn cael eu hadrodd, yr holl gyfleusderau a gamddefnyddiodd, yr holl wahoddiadau a ddibrisiodd yn cael eu hedliw iddo.