Tudalen:Hanes Methodistiaeth Corris a r Amgylchoedd.djvu/117

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Pa deimiladau o gywilydd a'i meddiana! Pa faint o warth a dirmyg a roddir arno!

Bydd hyn hefyd yn peri mwy o lawenydd i'r duwiol. Pa deimladau o orfoledd a'i meddiana pan glywo ei rinweddau yn cael eu coffâu, y cyhuddiadau a roddwyd yn ei erbyn yn cael eu dangos, ar holl bechodau wedi eu taflu i ddyfnderoedd y môr. Yna y dychwelwch ac y gwelwch ragor rhwng y cyfiawn ar drygionus, rhwng yr hwn a wasanaetho Dduw, ar hwn nis gwasanaetho ef.

Peth o annhraethol werth fydd bod mewn heddwch â'r Barnwr.

PENOD VIII

ROWLAND EVANS, ABERLLEFENNI

YR ydym eisoes wedi gwneuthur amryw gyfeiriadau at wrthddrych y benod hon; ond yn bresenol ymdrechwn grynhoi yr hyn sydd wybyddus i ni, ac y credwn a fydd o ddyddordeb parhaol, o hanes ei fywyd, i gyn lleied o gwmpas ag y gallwn, gan ychwanegu sylwadau ar ei gymeriad a'i waith. Mae yn hyfryd genym hefyd y gallwn roddi i'n darllenwyr amrywiol gynyrchion, y rhai a ddangosant y dyn yn llawer gwell nag unrhyw sylwadau o'r eiddom ni.

Gyda golwg ar rai pethau yn ei fywyd boreuol, cawsom radd o anhawsder, oherwydd y gwahaniaeth rhwng amrywiol adroddiadau a dderbyniasom; ond gwnaethom bob ymdrech i gael allan o honynt yr hyn y barnem a ddeuai yn agosaf i'r gwirionedd,