Tudalen:Hanes Methodistiaeth Corris a r Amgylchoedd.djvu/118

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

er y rhaid i ni addef fod ansicrwydd yn aros eto am rai o'i symudiadau.

Mab ydoedd Rowland Evans i Lewis a Jane Evans; a ganwyd ef mewn lle o'r enw Felin Eithin, gerllaw Mathafarn, yn mhlwyf Llanwrin, Maldwyn, yn Ebrill, 1792 Yr oedd yr ieuangaf o bedwar o blant. Dygodd ei unig frawd, yr hwn a elwid Evan Lewis, ar hwn ydoedd aelod gyda'r Annibynwyr, i fyny deulu lliosog o naw o blant. A bu pump o'r rhai hyn yn bregethwyr gyda'r enwad hwnw yn Lloegr; ond nid oes mwy nag un o honynt yn awr yn fyw. Bu farw ei chwaer Jane yn 18 mlwydd oed; ond bu ei chwaer Elisabeth yn briod â Hugh Lumley, yr hwn oedd frawd i Richard Lumley, a grybwyllwyd mewn penod flaenorol, ac i Robert Lumley, yr hwn y daw ei enw gerbron mewn penod ddilynol. Gŵr crefyddol iawn, meddir, oedd Lewis Evans; ond bu farw pau nad oedd Rowland ei fab ieuangaf yn fwy na deunaw mis oed. Ymhen rhyw gymaint o amser wedi ei farwolaeth, symudodd ei weddw, gyda'i phedwar plentyn, i ardal Corris, lle yr ymbriododd eilwaith â'r blaenor ffyddlawn Richard Anthony. Yn yr Hen Shop y dywedir iddynt breswylio am rai blynyddoedd; a thra yno ymddengys i Rowland fod am beth amser yn yr Ysgol gyda Lewis William. Os ydoedd y dyddiad mewn penod flaenorol yn gywir, yr oedd ar y pryd o wyth i naw mlwydd oed. Cafodd y fraint, fel un o ddeiliaid yr Ysgol Sabbothol, o adrodd y chweched benod o'r Epistol at yr Ephesiaid yn gyhoeddus wrth Mr. Charles ar un o'i ymweliadau; a dywedodd yntau ar y pryd, Y mae rhywbeth yn y bachgen hwn. Bu am rai blynyddoedd yn hogyn gyda Dafydd Humphrey yn Abercorris. Yr adeg hono, y mae yn ymddangos, yr aeth ei fam a'i phriod i fyw i Felin Aberllefenni; ac ymhen amser aeth yntau yno atynt i ddysgu gwaith Saer coed, canys dyna oedd galwedigaeth Richard Anthony. Yn ei flynyddoedd olaf, dychwelodd Rowland Evans at yr alwedigaeth hono i enill ychydig trwyddi,