Tudalen:Hanes Methodistiaeth Corris a r Amgylchoedd.djvu/119

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

wedi i'w iechyd fyned yn rhy wanaidd i fyned gyda'r gaseg a'r gert i'r Dderwen Las. Ond trwy ei agosrwydd i'r Felin, ymddengys iddo deimlo mwy o awydd am fod yn felinydd na myned ymlaen gydai saerniaeth, ac felly, pan ydoedd tua 15 mlwydd oed, aeth i'r Felin Goegian, gerllaw y Cemmaes, Maldwyn, yn fath o egwyddorwas. Cedwid y Felin hono gan hen wraig, nodedig o gall a deallus, yr hon a roddai iddo lawer o gynghorion; yn enwedig gyda golwg ar y byd presenol, yn y ffurf o ddiarhebion. Nid ydoedd eto yn aelod eglwysig, nac ychwaith wedi cael mynychu y Cyfarfodydd Eglwysig gydai rieni; ond parhaodd i fyned i'r Ysgol Sabbothol wedi symud i'r Cemmaes. Nid oes un hanes ddarfod iddo erioed ddangos un duedd at fod yn fachgen gwyllt; ond pan oedd tua 18 mlwydd oed cafodd droedigaeth amlwg iawn. Ac y mae yr amgylchiadau yn werth eu gosod i lawr gyda gradd o fanylder.

Dydd Nadolig, yn y flwyddyn 1810 yn ol yr arferiad y pryd hwnw, aeth gyda'i gyfoedion i chwareu gyda'r bêl droed; ond ar derfyn y dydd, yn lle myned gyda hwynt i'r dafarn, aeth i wrandaw y Parchedig John Hughes, Pontrobert, yr hwn oedd i bregethu yn y Cemmaes y noson hono. Testyn y pregethwr ydoedd 1 Timotheus i: 15 "Gwir yw y gair &c." Sylwai fod y geiriau yn cymeryd yn ganiataol fod pawb yn bechaduriaid yn wreiddiol, ac nid wedi myned felly rywbryd ar ol tyfu i oedran, fod y gorden ddamniol ar wddf y pechadur yn dyfod i'r byd. Ac, ychwanegai, os nad ydyw Duw o'i ras wedi ei thynu ymaith, y mae am dy wddf y foment hon. Wrth adrodd yr hanes, ymhen llawer o flynyddoedd, dywedai R. E. iddo deimlo ar y pryd fel pe na buasai neb yn y capel ond y pregethwr ac yntau; a bu am dymor wedi hyny mewn trallod blin yn achos ei enaid. Aros y tuallan i'r eglwys a wnaeth efe er hyny. Ymhen rhai misoedd wedi y bregeth uchod, aeth i wrando y Parchedig William Williams, o'r Wern, yn pregethu oddiwrth Hosea xiii. 13, "Mab anghall yw efe