Tudalen:Hanes Methodistiaeth Corris a r Amgylchoedd.djvu/120

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

canys ni ddylasai efe sefyll yn hir yn esgoreddfa y plant." Sylwai y pregethwr fod perygl mawr i ddyn ddechreu oedi yn yr argyhoeddiad. "Fel y llwyth yn myned trwy y gors, meddai, os a hwnw ymlaen ar ei union, bydd ganddo siawns dda i fyned trwodd; ond os erys yn ei chanol a dechreu suddo, deg i un nad yn ddarnau y rhaid ei gymeryd oddiyno." Effeithiodd cymhwysiad y pregethwr o'r sylw hwn yn ddwys iawn ar feddwl R. E. ond oedi a wnaeth drachefn am oddeutu chwe mis. Tua'r adeg hono clywodd fod y Parchedig John Evans, New lnn, yn pregethu yn Machynlleth, ar Parchedig John Elias yn Llanbrynmair, yr un adeg. Wedi peth petrusder, penderfynodd fyned i wrando ar y diweddaf. I Lanbrynmair yr aeth, dros y mynyddoedd meithion, ac ar hyd llwybrau tra anhygyrch. Testyn y pregethwr y tro hwnw ydoedd Numeri x. 29, "Tyred gyda ni, a gwnawn ddaioni i ti" O dan y bregeth teimlai fel un wedi ei lwyr orchfygu, a phenderfynai ymuno âg eglwys Dduw ar unwaith; ond erbyn tranoeth yr oedd yn dechreu caledu drachefn. Yn lled fuan, os nad y diwrnod hwnw, wrth fyned i fyny i'r mynydd, i gyrchu llwyth o fawn, gwelai nifer o fechgyn yn chwareu pitch and toss, a thybiodd ar unwaith fod yno gyfleusdra rhagorol i ymlid ymaith aflonyddwch ei deimladau. Ymdaflodd gan hyny yn egniol i'r chwareu am ryw yspaid; ac wedi hyny aeth ei gyfoedion tuag adref, ac yntau yn ei flaen i'r mynydd. Wedi cyraedd yno, yn ol un hanes a gawsom, dallwyd ef gan ystorm arswydus o fellt a tharanau; aeth yn ystorm, pa fodd bynag, yn ei feddwl. Ofnai rhag i Dduw ei ladd yn y fau; ac yn y terfysg y diwrnod hwnw y torwyd y ddadl am byth yn ei feddwl. Y cyfleusdra cyntaf a gafodd ar ol hyny, ymunodd â'r eglwys Fethodistaidd yn y Cemmaes. Yr oedd, hyd yn ddiweddar, un yn fyw yn ei gofio yn y cyfnod hwn, sef yr hen dad hybarch James Ellis, o'r Cemmaes, yr hwn a dystiolaethai iddo hynodi ei hun yn fuan yn ei ymroddiad i lafur gyda'r Ysgol Sabbothol. Nid oedd yn