Tudalen:Hanes Methodistiaeth Corris a r Amgylchoedd.djvu/122

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Tua'r flwyddyn 1822, neu 1823, pan ydoedd yn 30 mlwydd oed, symudodd o Sir Aberteifi i Felin Aberllefenni, i ofalu am dani dros Humphrey Davies, Abercorris. Ac felly yr ydym yn ei gael, ar ol absenoldeb o ddeuddeng mlynedd, yn ymsefydlu eilwaith yn y lle y buasai yn byw gyda'i fam a'i dad gwyn, ac yn y lle yr oedd i dreulio bellach weddill ei oes.

Nis gallwn fanylu ar ei helyntion am y 47 mlynedd y bu yn y Felin,—y 29 cyntaf fel goruchwyliwr H. Davies, ar gweddill gyda chymeriad y Felin ganddo ei hun. Digon helbulus fu ei holl fywyd. Yn un peth, yr oedd yn wastad mewn ansicrwydd. Clywsom ef yn dywedyd unwaith, Yr wyf yn yr hen Felin yma ers deugain mlynedd; ond ni bum erioed yn gwybod a gawn i aros ynddi flwyddyn arall. Croes drom iddo fu afiechyd maith ei briod. Bu yn orweddiog am lawer o flynyddoedd, ac yn dioddef hefyd lawer mwy nag a dybid yn gyffredin. Siaradai yn lled iach yn ei gwely; ac yr oedd bob amser yn gwbl gyfarwydd â hanes y Felin, er heb ei gweled ers blynyddoedd. Hawdd fyddai gweled ar R. E. os byddai Mari yn waelach. Dangosodd tuag ati dynerwch diderfyn; ac yr oedd ei marwolaeth, Mai 24ain, 1856, yn 65 mlwydd oed, yn brofedigaeth lem iddo.

Cyfyng fyddai ei amgylchiadau yn wastad; ac ar adegau byddai mewn anhawsder i gael deupen y llinyn ynghyd. Byddai yn cadw cwpl o fuchod, a byddai ganddo hefyd yn wastad hyd y blynyddoedd olaf gaseg a chert, yn cludo llechi i lawr i'r Dderwen Las. Cyn gwneuthur y Tramway i'r lle hwnw, a chyn gwneuthur y Cambrian Railway i Fachynlleth, byddid yn cludo holl gerig y chwarelau i lawr i'r Dderwen Las mewn gwageni a cherti, oddieithr y rhai a gyrchid i'w defnyddio ar hyd gwahanol ranau y wlad oddiamgylch; ac oddiyno cymerid hwy i lawr yn y cychod ar hyd Afon Dyfi, i Aberdyfi, i'w cymeryd drachefn yn y llongau o'r porthladd hwnw i wahanol borthladdoedd y deymas hon ar Cyfandir. Trwy gludo y