Tudalen:Hanes Methodistiaeth Corris a r Amgylchoedd.djvu/123

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

llechi y byddai tenantiaid y boneddwr a berchenogai y chwarel yn talu eu hardrethoedd, ac yn gwneuthur, feallai, ryw gymaint dros ben; a bu R. E. am flynyddoedd, tra yn gofalu am y Felin ei hun, yn cadw gwas i ganlyn y gaseg ar gert. Wedi adeiladu y ty engine mawr gerllaw y Felin, aeth y ddiweddaf yn gwbl ddiwerth, oddieithr yn y nos, pan na byddai y dwfr yn cael ei ddefnyddio gyda'r blaenaf, neu ynte pan y byddai llifogydd mawrion yn peri fod cyflawnder at wasanaeth y naill ar llall. Dibynai R. E. bellach braidd yn gwbl ar ei lafur ei hun gyda'r gaseg ar gert, a llafur Eliza gyda'r gwartheg, y moch, ar ieir. Wedi gwneuthur y tramway o Aberllefenni i'r Dderwen Las, daeth goruchwyliaeth y cario i ben, ond caniatawyd yn dirion iddo ef barhau, er y gostyngwyd y pris iddo yntau hefyd. Yr oedd ei iechyd yn hynod egwan ac ansicr; a chanlyn y gaseg ar gert trwy bob tywydd yn dra niweidiol iddo. Teimlai yn fynych yn hynod ddigalon, yn enwedig pan y gwelai ambell ddrws yn cau a arferasai fod yn agored iddo. Ar un o'r amgylchiadau hyn yr ydym yn cofio ei weled yn hynod o isel, pan y dywedwyd wrtho, Cymerwch galon, daw gwaredigaeth o rywle eto. Dichon y daw, atebai yntau, ond rhaid ein bwrw ni ar ryw ynys, ac ar hyn o bryd dyw'r ynys ddim yn y golwg. O'r diwedd aeth ei iechyd yn rhy lesg iddo barhau ar y ffordd, a bu raid gwerthu y gaseg ar gert, ac aros gartref i geisio enill ychydig trwy ei hen alwedigaeth fel saer coed, yr hon y buasai yn dysgu ychydig arni yn yr hen Felin yn nyddiau ei febyd.

Bywyd a llawer o ddedwyddwch yn perthyn iddo ar yr un pryd oedd ei fywyd ef yn nghanol pob trafferthion. Hen dŷ gwael oedd yr hwn y preswyliai ynddo. Nis gallai dyn o daldra cyffredin fyned i mewn iddo heb blygu; ac wedi myned ychydig ymlaen rhaid oedd plygu ychwaneg cyn y gellid ymwthio i'r gongl wrth y tân o fewn yr hen simdde. Dysgwch blygu; ydi hi yma meddai R. E. unwaith wrth Mr. Humphreys