Tudalen:Hanes Methodistiaeth Corris a r Amgylchoedd.djvu/125

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Llawer awr a dreuliodd ar ei ffordd adref o'r addoliad gyda'i gyfeillion; ac nid anfynych y bu yr ymddiddanion hyn yn swynol eraill, y rhai a hoffent wrandaw arnynt er heb gymeryd rhan ynddynt.

Yn nghanol pob trallod, ac yn ngwyneb pob profedigaeth, dangosodd ddioddefgarwch Cristionogol. Gŵr gonest ac uniawn ydoedd yn ei holl drafodaethau, a hynod heddychlawn a thangnefeddus. Dros yr holl flynyddoedd y bu yn oruchwyliwr i H. Davies, tystiai y diweddaf na chafodd erioed yr anghywirdeb lleiaf yn ei gyfrifon; ac yr oedd yn wastad yn dra gofalus am gyfarfod ei holl ofynion yn brydlawn a chyflawn. Gyda llawer o bethau yn wir nid oedd yn brydlawn. Annibendod oedd un o'i ddiffygion. Ar ol y byddai yn gyffredin yn myned i'r addoliad, ac ar ol hefyd yn myned o'r addoliad. Llawer sèn a ddioddefodd yn dawel oblegid y diffyg hwn. Ond gydai ofynwyr yr oedd yn dra ymdrechgar i fod yn brydlawn.

Nodweddau mwyaf amlwg ei gymeriad fel dyn oeddynt amynedd, ac addfwynder. Yn ngwyneb dioddefiadau o bob math yr oedd yn addfwyn, a than brofedigaethau cryfion i fod yn wahanol, dangosai braidd bob amser yr ysbryd mwyaf amyneddgar. Unwaith y clywsom am dano wedi gwylltio, a hyny mewn cyfarfod eglwysig yn y Felin. ryw adeg cyn adeiladu yr ysgoldy yn Pantymaes. Ymddengys fod dwy chwaer oeddynt yn byw yn yr un lle wedi syrthio allan a'u gilydd, ac i'r helynt rhyngddynt gael ei ddwyn i mewn i'r eglwys. Achos yr ymrafael oedd camddealltwriaeth rhwng yr ieir ar y buarth. Tybid fod ffrae yr ieir wedi ei chymeryd i fyny gan un o'r ddwy wraig. un diwrnod cadwyd ieir y wraig hono i mewn yn y tŷ, a gadawyd yr holl fuarth yn rhydd i ieir y wraig arall; ond canlyniad y rhyddid hwn a fu eu marwolaeth bob un. A chanlyniad eu marwolaeth ydoedd ymrafael blin rhwng y ddau deulu. Dygwyd y cweryl i'r society, ond y cwbl oedd yn eglur ydoedd fod yr ieir oll wedi marw. Sicrwydd moesol yn unig oedd