Tudalen:Hanes Methodistiaeth Corris a r Amgylchoedd.djvu/126

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gan y cyfeillion fod marwolaeth ieir un wraig wedi ei hachosi gan y wraig arall; a dadlenai R. E. fod hwnw yn ddigon, tra yr oedd eraill yn dadleu y dylid cael prawf uniongyrchol. Am unwaith pallodd ei amynedd, a dywedir iddo wylltio yn gidyll ; ac mai da iawn oedd fod Morris Jones yn bresenol i ddwyn pethau i drefn. Cymerodd M. J. yr achos i fyny, a rhoddodd i'r ddwy wraig driniaeth a'u danfonodd adref wedi eu darostwng gan gywilydd, os nad wedi eu hystwytho gan ras. Ychydig mewn cymhariaeth o'r rhai a ddygwyd i fyny o dan ei addysg am y deng mlynedd ar hugain diweddaf o'i oes a allent feddwl am dano, er y tro hwn a ddigwyddasai, ond fel un o'r rhai llarieiddiaf o ddynion.

Yr oedd yn ddiau yn dra amddifad o'r nodweddau y cyfeiriwyd atynt yn H. Davies, ar rhai oeddynt hanfodol i sicrhau llwyddiant mewn ystyr dymhorol. Yr oedd ynddo gydwybodolrwydd dwfn, ond yr oedd yn amddifad o'r yni ar egni sydd yn gwneyd dynion llwyddianus. Yn ei farn ar bob achos yr oedd yn annibynol hollol; ac os byddai galw, safai i fyny dros ei farn gyda dewrder a gwroldeb, ond nid oedd ynddo ar yr un pryd yr annibyniaeth ysbryd i enill iddo ei hun safle annibynol yn y byd. Da iawn fuasai fod ynddo ychydig o'r ysbryd oedd yn y fath gyflawnder yn Humphrey Davies. Aeth trwy y byd yn ddyn ar ei eithaf yn wastad, heb erioed fod yn meddu safle y gellid ei hystyried yn annibynol.

Yr oedd ar yr un pryd yn ddyn o graffder neillduol, ac o allu meddyliol o radd uchel. Yr oedd yn llawer ehangach ei wybodaeth Ysgrythyrol a duwinyddol na H. D.; a'i syniad am athrawiaethau yr efengyl yn annrhaethol gryfach ac eglurach; ond yr oedd ar yr un pryd yn amddifad o'r nerth oedd mor amlwg yn H. D. i'w wneyd yn feistr ar amgylchiadau. Nid rhyw wlanen o ddyn ydoedd; na, yr oedd o argyhoeddiadau dyfnion, ac ni phetrusai sefyll dros ei egwyddorion; ond yr oedd ei natur yn gwbl rydd oddiwrth yr uchelgais iachus sydd