Tudalen:Hanes Methodistiaeth Corris a r Amgylchoedd.djvu/127

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

bob amser yn nodweddu y dynion sydd yn dyfod ymlaen yn y byd.

Fel Cristion yr oedd yn ddiau yn un o'r rhai disgleiriaf a welwyd yn yr ardaloedd hyn erioed. Tystia un brawd, sydd yn fyw eto, ei fod yn wastad yn teimlo yn ei ddyddiau gwylltaf fod Duw yn agos iawn ato pan y byddai R. E. gerllaw. Dyma ydoedd yr argyhoeddiad yn meddyliau ieuenctyd yr ardaloedd bob amser. Edrychai pawb arno yn ŵr Duw. Er mor siriol ei dymer ydoedd, ni ymollyngai un amser i ysgafnder. Un tro, mewn cyfarfod eglwysig yn Pantymaes, pan yr oedd cwyn fod amryw o'r aelodau yn euog o ysgafnder tra phechadurus yn y chwarel, safodd i fyny, a gofynodd dair gwaith, Pwy o honoch a all fy nghyhuddo i o ysgafnder? Yr oedd yr apêl yn hynod effeithiol, am fod tystiolaeth ymhob cydwybod ei fod ef bob amser, ac ar bob achlysur, yn gwbl rydd oddiwrth yr hyn y rhybuddiai eraill rhagddo.

Yn ei holl ymddygiadau yr oedd yn dra gwyliadwrus yn wastadol. Byddai ei holl ymddiddanion yn adeiladol: ac anhawdd ydyw credu i'r cymydogaethau hyn weled erioed ddyn yn fwy rhydd oddiwrth bob diffygion. Yn ei deulu yr oedd yn ddifwlch hollol gyda'r addoliad teuluaidd. Deuai adref yn fynych yn hwyr; ond nid ymneillduai i orphwys un amser heb gadw dyledswydd. Foreu a hwyr, Sul a gwyl a gwaith, ni oddefid bwlch yn yr addoliad teuluaidd. Cymhellai yn fynych yn y cyfarfod eglwysig na byddo iddo gael ei roddi heibio ar y Sabbath, gan sylwi fod yn Israel ddau oen yn y boreu, a dau oen yn yr hwyr yn cael eu haberthu ar y Sabbath tra na aberthid ond un ar ddyddiau eraill yr wythnos. Darllenai y Beibl o'i gwr, ac aeth trwyddo oll liaws o weithiau. Ni byddai byth yn plygu dalen y Beibl; ond ni byddai er hyny mewn unrhyw drafferth i gael gafael ar y lle y byddai wedi gadael heibio y tro o'r blaen. Ac yr ydym yn credu na