Tudalen:Hanes Methodistiaeth Corris a r Amgylchoedd.djvu/129

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

neu ychwaneg o'r brodyr cartrefol. Mae on blaen yn awr lyfr yn cynwys nifer mawr o'r cyfryw, wedi eu cyfansoddi gan Howell Jones, Gell Iago; Samuel Williams, Ffynonbadarn; a Rowland Evans. Wele restr o honynt : Am werthfawrogrwydd Gwir Grefydd; Am Bechadur Tafod; Am y Pechod o Falchder; Am y Cyfamod Gweithredoedd; Am Ddewiniaeth; Am Addoli; Am Agweddau Anaddas tuag at Air Duw; Am Ostyngeiddrwydd; Am Ailenedigaeth; Am Chwilio'r Ysgrythyrau a Myfyrio ynddynt; Am y Prophwydoliaethau am Grist a'u Cyflawniad; Am lwyddiant Teymas Crist; Am Athrawiaeth y Cyfrifiad; Am y Cysgodau o Grist yn ei Dair Swydd Gyfryngol; Am Genfigen; Am Galedwch; Am Gariad Brawdol; Am Gadw'r Sabbath; Am Hunanoldeb; Am Gariad Duw; Am Ffyddlondeb gyda gwaith yr Arglwydd. Am Barhad mewn Gras; Am Esgeuluso Moddion Gras; Am Gyfeiliornadau; Am Ddiweirdeb.

Wedi parotoi mater, rhenid ef mewn ysgrifen ar ddarnau bychain o bapyr i'r gwahanol ddosbarthiadau. Byddai yn y modd yma bob dosbarth yn dysgu allan un o'r atebion, ynghyd â'r adnodau a ddygid ymlaen fel profion ; ac eid trwy yr holl Fater bob yn rhan ar ddiwedd yr ysgol, nes bod felly yn barod i gael cyfarfod ar nos Sabbath i fyned trwyddo oll. Cymerid dyddordeb cyffredinol yn y cyfarfodydd hyn, pryd yr holwyddorid gan awdwr y Mater. Creodd rhai o honynt radd o gynwrf yn y gymydogaeth. Yn anffodus, nid oes genym sicrwydd pa nifer o'r Materion uchod a gyfansoddwyd gan y tri brawd; ond dywedai Samuel Williams wrthym ei fod yn cofio yn dda mai efe a barotoisai yr un Am Gyfeiliornadau ; ac yr oedd argraff ar ei feddwl mai efe hefyd ydoedd awdwr yr un Am Ailenedigaeth. Dodwn i mewn yn y benod nesaf yr unig ddau y mae sicrwydd mai R. E. ydoedd eu hawdwr; a dangosant un peth o leiaf yn eglur, sef fod llafur gwirioneddol gyda'r Ysgol Sabbothol yn y dyddiau hyny.