Nid anghofir byth rai o'r cyfarfodydd ar nos Sabbothau yn Pantymaes gan neb oedd ynddynt, yn enwedig pan fyddai R. E. yn holi, ac yn ei hwyliau goreu. Yn yr olwg arno oddiallan nid oedd dim yn neillduol: a dywedai un brawd wrthym ei fod yn teimlo yn dra siomedig wedi ei weled, am nad oedd yn canfod ynddo ddim i gyfreithloni y son a glywsai am dano. Gwanaidd a lleddf oedd ei lais: ond byddai yr holwyddori yn ei law yn rhywbeth gogoneddus ar adegau. Byddai mewn hwyl hyfryd ei hun; ac ni byddai un amser y wledd i gyd yn disgyn i ran yr holwyddorwr. Gwelsom rai gweithiau ddynion wrth areithio neu bregethu yn ymddangos yn mwynhau yn rhyfeddol eu hunain, a'u gwrandawyr yn synu ac yn gofidio na chaent hwythau ryw gyfran fechan o'r mwynhad; ond byddai R. E. fel holwyddorwr yn wastad mewn perffaith gydymdeimlad â'i gynulleidfa. Nis gallwn ddywedyd pa un a'i y goleuni a'i y gwres fyddai yn fwyaf amlwg; ond yr ydym yn sicr na fyddai ef yn foddlawn heb arwyddion fod y deall yn. cael ei oleuo, a'r galon hefyd yn cael ei gwresogi. Ni roddai un amser yr anghefnogaeth leiaf i neb a geisiai ateb ei gwestiynau, gan nad pa mor anfoddhaol fyddai yr ateb: i'r gwrthwyneb, gwelid ateb lled ganolig yn troi yn ateb da yn ei ddwylaw ef. Hawdd er hyny fyddai gweled arno effaith wahanol pan roddid ateb cywir a llawn; ond y mae yn anmhosibl gosod ar bapyr y gwres a gynyrchid wedi cael y cyfryw gan ei Ie ; da iawn: rhywun eto. Tynai ei law yn frysiog dros ei wallt o'i goryn i lawr i'w dalcen; ac yna gafaelai âg un llaw y ddehau, yn mrest ei gôt, ac â'r llaw arall yn nghefn y fainc ol flaen, gan godi yn fynych ar flaenau ei draed, y rhai oeddynt arwyddion sicr ei fod yn gwresogi yn y gwaith. Pan y codai y gwres yn uchel iawn byddai yn gollwng y fainc ac yn gafael yn mrest ei gôt â'i ddwy law, gan wasgu y ddwy ochr at eu gilydd drachefn a thrachefn, a chodi yn barhaus ar flaenau ei draed. Byddai y plant yn deall
Tudalen:Hanes Methodistiaeth Corris a r Amgylchoedd.djvu/130
Gwedd