Tudalen:Hanes Methodistiaeth Corris a r Amgylchoedd.djvu/131

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yr arwyddion hyn cyn bod yn alluog i ddeall nemawr am werth yr hyn a fyddai dan sylw; ac nid oedd rhai mewn oed ychwaith uwchlaw bod ar eu gwyliadwriaeth am danynt. Yr oedd R. E. yn wres—fesurydd yn gystal ag yn wresgynyrchydd yn y gynulleidfa. Gadewid y cyfarfod gweddi weithiau gan rai o'r bobl ieuainc i fyned ar ol y pregethwr i Gorris; ond ni addewid y Cyfarfod Holi un amser, yn enwedig os R. E. fyddai yr holwr. Ac anmhosibl ydyw prisio yn briodol y daioni a gynyrchwyd yn y blynyddoedd lawer y bu y llafur hwn yn myned ymlaen yn y gymydogaeth. Yr oedd i R. E, fel y dywedwyd, gydlafurwyr ffyddlawn yn Howell Jones, a Samuel Williams; ond cydnabyddent hwy eu hunain yn rhwydd, a chydnabyddai pawb eraill yr un modd fod R. E. fel holwyddorwr yn dywysog yn eu plith.

Llanwodd bob swydd yn yr Ysgol Sabbothol yn ei gartref; a bu hefyd o wasanaeth gyda hi mewn manau eraill. Llawer a areithiodd ar Yr Ysgol Sul ; ac y mae yn hyfryd genym all rhoddi i'n darllenwyr rai engreifftiau o'i areithiau. Gwelir hwy yn y benod nesaf Bu yn ymweled hefyd â gwahanol ysgolion, ac yn dangos medr neillduol i wneuthur y gorchwyl hwnw yn effeithiol. Clywsom am dano unwaith yn rhoddi adnod i'w darllen, sef Esaiah xxv. 5 "Fel gwres mewn sychder y darostyngi dwrf dieithriaid; sef gwres â chysgod cwmwl, &c". Ychydig a geid wedi sylwi mai arddodiad ac nid cysylltair yw yr a yn yr adnod; a'i wers yntau oedd, wrth gwrs, yr angenrheidrwydd am sylw ar yr hyn a ddarllener. Un o feibion yr Ysgol Sabbothol ydoedd ; mawr oedd ei zêl drosti a'i frwdfrydedd gyda hi hyd ddiwedd ei oes.

Rhaid i ni eto geisio cyflwyno rhyw syniad am dano fel swyddog eglwysig,—fel blaenor. Dangoswyd eisoes ei fod wedi gwasanaethu yn y swydd hon mewn tair o eglwysi,—yn gyntaf oll yn Nghapel y Graig, Swydd Aberteifi; yna yn