Nghorris, ac yn olaf yn Aberllefenni. Nid ydym yn gwybod nemawr am ei hanes yn y lle cyntaf; ond gwyddom mai un or pethau cyntaf y daeth i deimlo o'i herwydd fel blaenor ieuanc oedd bychander y gydnabyddiaeth i'r pregethwyr. Swllt, maen debyg, oedd y swm cyffredin y pryd hwnw am bregeth; ond mynodd ef ei godi yn y Graig i haner coron, o leiaf yn achlysururol os nad yn gyson. Ystyrid y swm hwn yn uchel, yn wastraffus o uchel; a dygodd y blaenor ieuanc arno ei hun gryn helynt trwy i'r pregethwr, wrth ei dderbyn un tro, yn drwsgl iawn ollwng yr haner coron i'r llawr, nes y gwelodd pawb oedd yn bresenol drostynt eu hunain y gwastraff. Er bod yn gyffredin ei amgylchiadau, yr oedd o duedd haelionus; a pharhaodd felly hyd y diwedd. Yn Nghorris, daeth yn fuan i lanw lle pwysig fel cydswyddog â'i feistr, Humphrey Davies. Sylwyd eisoes ar y lle mawr oedd i flaenor yn y dyddiau hyny. A rhoddwn yma arwydd ychwanegol o hono trwy ddyfynu yr hyn sydd ysgrifenedig ac argraffedig ar Docyn sydd yn awr on blaen :
"Rowland Evans, Golygwr Cymdeithas
y Methodistiaid yn Corris, Swydd Meirionydd.
- Medi 1, 1843
Ar wyneb arall y Tocyn, ceir yr hyn a ganlyn:—
A WYT TI YN FY NGHARU I?
Portha fy wyn; Bugeilia fy nefaid; Portha fy nefaid. Ioan
xxi. 15—17 Edrychwch arnoch eich hunain, ac ar yr holl
braidd, gan fugeilio Eglwys Dduw, yr hon a bwrcasodd efe â'i
briod waed. Nid fel rhai yn tra—arglwyddiaethu ar etifeddiaeth
Duw, ond gan fod yn esamplau i'r praidd. Yn gwylio
dros eu heneidiau megys rhai a fydd rhaid iddynt roddi cyfrif.
Actau xx. 28; 1 Petr v. 2, 3; Heb. xiii. 17 "
"Golygwyr" oedd blaenoriaid y cyfnod hwn; ac fel y cyfryw cyflawnent bob gwaith a berthyn i swydd gweinidog yr efengyl, oddigerth pregethu a gweinyddu yr ordinhadau. A cheir gweled yn fuan fod R. E. yn gwneyd y cwbl mewn gwirionedd