ond gweinyddu yr Ordinhadau o Fedydd a Swper yr Arglwydd. Ein hamcan, pa fodd bynag, yn y sylwadau hyn, ydyw mynegi ffeithiau, ac nid dwyn i mewn unrhyw feirniadaeth. Yr ydym yn cydsynio yn galonog â'r sylwadau canlynol gan y diweddar Barchedig Griffith Williams, Talsamau, yn ei lyfr bychan dyddorol ar "Yr Hynod William Ellis:—
Wrth son am dano fel blaenor, dylem gymeryd hamdden i dalu gwarogaeth i'r urdd hon o swyddogion yr oedd ef yn perthyn iddi. Y mae pawb sydd yn gwybod dim am yr achos yn y blynyddoedd gynt yn gwybod hefyd am y gwasanaeth mawr a wnaed gan y swyddogion hyn; ac yr ydym yn dyledus fesur mawr iddynt am y llwyddiant sydd wedi bod ar yr achos yn ein plith. Bu amser pan y byddai gofal yr achos yn gartrefol yn gorphwys bron yn gwbl ar ysgwyddau ein diaconiaid. Yr oedd y gweinidog yn weinidog i'r holl Gyfundeb, a gofal cyffredinol yr achos trwy Gymru oll ganddo: ond am y blaenor, fe fyddai ef, fel y wraig rinweddol, yn gwarchod gartref; neu fel Sara, gwraig Abraham, bob amser yn y babell, ar holl ofalon yn eu hamrywiaeth mawr yn gorphwys arno.
Urdd ardderchog mewn gwirionedd oedd urdd yr hen flaenoriaid, y rhai oeddynt olygwyr ar yr eglwysi.
Gyda H Davies, fel yr awgrymwyd, daeth R. E. i gymeryd ei ran yn ngolygiaeth yr eglwys yn Nghorris; ac ni chydweithiodd dau swyddog erioed yn fwy hapus. H D. fyddai yr arweinydd bob amser. Yr oedd y cynllun i lywyddu bob yn ail fis heb ddyfod i feddwl neb yn yr oes hono. Wrth alwad H D, yr hwn a fuasai yn flaenor rai blynyddoedd yn yr eglwys o'i flaen, yr ymaflai R. E. yn wastad yn ei waith. Araf, anniben oedd R. E, os gadewid ef iddo ei hun; ond gyda H D, yr hwn oedd bob amser yn llawn bywyd ac egni, byddai yn gweithio yn rhagorol. Crybwyllasom eisoes ddisgrifiad Richard Owen o'r ddau yn y Cyfarfod Eglwysig; ac anmhosibl fuasai cael ei ffyddlonach. Myned i mewn i deimladau ei frodyr a'i chwiorydd crefyddol oedd amcan mawr R. E, deall eu tywydd, a gwybod pa beth a wnaent eu hunain yn ei ganol.