Tudalen:Hanes Methodistiaeth Corris a r Amgylchoedd.djvu/13

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

SYLWADAU RHAGARWEINIOL.

——————♦——————

TREF-DDEGWM yn mhlwyf Talyllyn, Swydd Feirionydd, ydyw Corris; ond defnyddir y gair yn fwy cyffredin fel enw ar ardal gyfansoddedig o'r dref-ddegwm uchod, a rhan o dref- ddegwm Ceiswyn, yn yr un plwyf. Yn y lle ei hun cyfyngir yr enw i'r pentref gwasgarog sydd wedi ei adeiladu ar derfyn y ddwy dref-ddegwm. Mae y pentref hwn ryw bum' milldir a haner o Fachynlleth, a thua deng milldir o Ddolgellau. Cyn dyddiau y rheilffyrdd yr oedd y ffordd sydd yn cysylltu y ddwy dref uchod, ac yn myned drwy Gorris, y brif dramwyfa rhwng Dê a Gogledd Cymru. Cafodd yr ardal felly lawer o freintiau pan oedd y pregethu teithiol yn ei ogoniant, ond fod y breintiau yn dyfod yn gyffredin ar ganol dydd,—adeg hynod anghyfleus i lawer o'r ardalwyr.

Llechweddog ac anwastad yw y tir ar ba un y saif y pentref, yn nghyfarfyddiad tri o gymoedd culion; ac y mae y bryniau uchel sydd o'i amgylch yn ymgau arno o bob tu. Pe safai dyn ar ei ganol,—yn ymyl y Ty-newydd, preswylfod Mr. Humphrey Davies, dyweder,—ni allai, gan dröadau ac anwastadrwydd y cymoedd, ac agosrwydd y bryniau, weled mwy na milldir i unrhyw gyfeiriad. Cauir y trigolion gan hyny i fesur mawr i gymundeb â'r ddaear dan eu traed, ac â'r nefoedd uwch eu penau, a gorfodir hwy i ddibynu ar ymweliadau achlysurol am wybodaeth ynghylch, hyd yn nod, y rhanau agosaf atynt o'r byd. Nid llawer o brydferthwch a berthyn i'r golygfeydd, er fod y coedwigoedd ar y naill law, a'r grûg a'r clogwyni ar y