llaw arall, yn swynol, yn enwedig i ymwelwyr. Mae y llech-chwarelau wedi anffurfio cryn lawer ar wyneb y ddaear yno, a pheri i'w hesgyrn dremio yn hyllig trwy ei chroen; ond anhawdd, er hyny, yw cael unrhyw gymydogaeth yn meddu gafael dynach yn serch ei thrigolion. Cofiant am dani yn eithafoedd y ddaear, a llawenychant pan gaffont eilwaith olwg ar ei chymoedd a'i hafonydd, ei chlogwyni a'i mynyddoedd, ac yn enwedig ar weddill arbedol ei phreswylwyr.
Yn mlaen un o'r tri chwm a nodwyd, ychydig yn llai na dwy filldir o bentref Corris, y mae ardal Aberllefenni. Cymer yr ardal ei henw oddiwrth yr hen balasdy, sydd yn awr yn feddiant i R. D. Pryce, Yswain, Cyfronydd, Arglwydd Raglaw Sir Feirionydd. Wrth yr hen balasdy, y mae y cwm yn ymranu yn ddau: y naill o'r rhai hyn yw Cwm yr Hengae; ac y mae y llall, cyn cael unrhyw enw, yn ymranu yn ddau eraill, sef Cwm y Ddolgoed (neu Ceiswyn, ac yn ddiweddar yr Alltgoed), a Chwm Llwydiarth. Cofus genym glywed mai saith milldir yw y pellder o'r bont, gerllaw y palasdy, i Fachynlleth, Dolgellau, a Dinas Mawddwy; ond amheuasom gywirdeb y mesuriad lawer gwaith wrth gerdded y llwybrau meithion dros y mynyddoedd i'r ddau le olaf. Nid yw y mynyddoedd lawn mor agos yma ag ydynt yn Nghorris; ac y mae Dol y Felin a Gweirglodd Arthur yn rhoddi yn ddiau i'r Cwm fwy o hawl i urddas Dyffryn na dim y gellid yn rhesymol ei seilio ar Gae Dolybont a Gweirglodd Braichgoch yn Nghorris.
Yn yr ail Gwm, ar hyd ochr pa un y gorwedd y ffordd newydd rhwng Machynlleth a Dolgellau, y ceir yn awr y rhan fwyaf o'r boblogaeth. Yma y mae ardaloedd y Geuwern a Thy'n y berth. Wedi gadael y ddiweddaf o'r tu ôl, a myned ychydig ymlaen i gyfeiriad Dolgellau, deuir i ardal Ystradgwyn, yn gorwedd mewn dyffryn bychan, prydferth, a dymunol. Yn ngwaelod y dyffryn y mae Llyn Talyllyn,—y pysgodlyn goreu yn ddiau yn Nghymru; ac uwch ei ben y saif urddasol Gadair