Tudalen:Hanes Methodistiaeth Corris a r Amgylchoedd.djvu/135

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Yr oedd tua 50 mlwydd oed pan y terfynodd ei gysylltiad âg eglwys Corris; ac o hyny hyd ei farwolaeth bu yn "dad" yr achos yn Aberllefenni. Er nad oedd mor adnabyddus o lawer y tu allan i'w gymydogaeth a H. D, eto yr oedd ei glod fel blaenor wedi cyraedd i liaws o eglwysi yn y cymydogaethau cylchynol. Yr ydym yn gwneuthur y dyfyniad canlynol o lythyr a dderbyniasom oddiwrth y Parchedig Evan Davies, Trefriw, yr hwn sydd enedigol o gymydogaeth gyfagos, sef o Aberangell

Y tro cyntaf i mi glywed son am Rowland Evans, oedd wrth ddyfod adref o seiat yn Aberangell, gyda'm tad, ar hyd llwybr camfäog, ar noson dywell, wlybyrog, pan yn blentyn bychan o bump i chwech oed. Braidd nad oeddwn yn grwgnach, ac yn cwyno y drafferth o fyned i'r capel ar y fath noswaith ystormus. Ond atebai fy nhad, Taw son, fachgen, yr oedd y seiat heno yn werth cerdded deng milldir iddi trwy dywydd mwy na hwn. Tybiwn inau fod y clod am effeithiolrwydd y seiat hono i'w briodoli yn gyfan i ragoroldeb yr unig flaenor oedd yn y lle ar y pryd; yr hwn gyda y Parchedig Richard Jones oedd yn gwneyd y cwbl i arwain y moddion ymlaen. Nid oedd y Parchedig R. Jones yn bresenol y noson y cyfeiriais ati; ac felly syrthiodd y gwaith yn hollol ar y blaenor, Mr. David Dayies, Blaen-y-plwyf Isaf. Er nad oedd David Davies wedi darllen llawer, nac yn ddyn o syniadau eang, yr oedd yn nodedig am ei bwyll a'i synwyr, yn ŵr pur, a hollol gysegredig i grefydd, ac yn meddu dawn arbenig i gadw seiat yn flasus ac adeiladol. Pan soniodd fy nhad wrthyf am effeithioldeb y seiat hono, gofynais iddo yn y fan, A oes blaenor yn rhywle cystal a David Davies, fy nhad? Atebai yntau, Ni wn i ddim yn wir: un go dda ydyw Rowland Evans y Felin, Aberllefenni. Yr oedd yr atebiad yna yn y fath gysylltiad yn ddigon i beri i ini gadw ei enw byth yn fy nghof, Bum yn holi llawer ar fy rhieni yn ei gylch ar ol hyny; a chefais bob lle i gredu fod R. E. yn rhywun mwy na chyffredin".

Ac felly yn ddiau yr ydoedd; ond ni chafodd neb gystal cyfleusdra i wybod hyny ar rhai yr estynwyd iddynt y fraint o fod yn gyson dan ei ddylanwad. Adeiladu ac ymgeleddu oedd ei amcan mawr; ac yr oedd ei fedr at y gorchwylion hyn yn