Tudalen:Hanes Methodistiaeth Corris a r Amgylchoedd.djvu/136

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

neillduol. Byddai yn dra gofalus hefyd am ddisgyblaeth eglwysig; ond ni welwyd erioed arwyddion fod gweinyddu cerydd yn rhoddi iddo un hyfrydwch. Safai i fyny yn wrol dros wirionedd, a siaradai ar adegau yn hynod gryf a difloesgni.

Cofus genym unwaith fod chwaer ieuanc wedi gwneuthur tro tra annheilwng, ond yn hynod gyndyn i gyfaddef y gwirionedd, hyd yn nod wedi iddo ddyfod yn gwbl adnabyddus. Wedi rhoddi iddi bob chwareu teg i wneyd cyffesiad, a dangos pob amynedd dichonadwy, dywedodd o'r diwedd wrthi; "—yr wyt ti yn ymgyrdeddu mewn celwydd." Yr oedd y fath eiriau oddiwrtho ef yn cynyrchu effeithiau trydanol. Ond wrth ymgeleddu y byddai yn ddedwydd, ac annrhaethol well fyddai ganddo rybuddio na cheryddu. Ac yn y cwbl yr oedd ei ddylanwad yn rhyfeddol.

Tuag at ddeall y dylanwad hwn rhaid cymeryd i ystyriaeth ragoroldeb ei gymeriad fel Cristion. Yr oedd ei dduwioldeb yn amlwg, a sancteiddrwydd ei fywyd yn adnabyddus i'r holl gymydogaeth. Nid oedd ynddo un math o lymder na gerwinder. Byddai ei holl ymddiddanion yn fwynaidd a thirion; ond er hyny gosodai ei arswyd ar fechgyn gwylltaf y gymydogaeth. Byddent oll ar ffô y foment y dywedai un o honynt fod yr Hen Felinydd yn dyfod. Yr oedd yn dda gan ei galon am y bechgyn gwylltion, a mynych y ceisiai, trwy ei eiriau caredig, eu dwyn at yr Iesu. Oes arnat ti ddim awydd dyfod i'r seiat, John ? meddai unwaith wrth hogyn digon direidus, sydd bellach ers blynyddoedd yn swyddog eglwysig. Oes, weithiau, meddai yntau. Wel, gwna hast, da fachgen; mae ar Iesu Grist eisiau peth ryfeddod o dy sort di, meddai yr hen flaenor. Ymdrechai ddeall eu cymeriadau, a pha fodd y gallai yn fwyaf llwyddianus gael gafael arnynt. Mae gan ras lawer iawn o waith i'w wneyd ef yn ddyn, heb son am ei wneyd yn Gristion; meddai am un o