honynt. Ac y mae yn ofnus fod y naill na'r llall heb ei wneyd hyd yma.
Gweddiai lawer dros icuenctyd y gymydogaeth. Yr oedd yn hynod fel gweddiwr. Gwledd i ni yn wastad fyddai ei glywed ef yn gweddio. Dechreuai ei weddi braidd bob amser gyda'r geiriau, Diolch iti, diolch iti Dad Nefol. Anfynych yr esgeulusai weddio dros yr ieuenctyd. A chofiai yn yr ugain mlynedd diweddaf o'i fywyd am fechgyn Cymru, a bechgyn Aberllefenni yn arbenig, yn ngwahanol wledydd y byd. Gofid calon iddo ef oedd eu gweled wedi tyfu i fyny, a dechreu bod yn ddefnyddiol yn yr eglwys, yn myned i'r America neu i Awstralia; a pharhaodd i weddio drostynt yn y gwledydd hyn tra y bu byw ar y ddaear.
Un tro yr oedd yn myned i Liverpool i: edrych am ei ferched; a digwyddodd iddo gael ei oddiweddyd gan bedrolfen, yr hon a yrid gan ŵr ieuanc, oedd ar y pryd yn lled bell dan ddylanwad diodydd meddwol. Derbyniwyd ef i'r bedrolfen gyda pharodrwydd; ac wedi dechreu ymddiddan â'r gyrwr, aethant yn fuan yn dra chyfeillgar. Mynai y gŵr ieuanc iddo gymeryd rhan o'i ymborth; ac nid oedd gomedd arno. Wel, bachgen glân dy galon wyt ti, meddai R. E.; pity na chaet ti ras. Mae'n anodd gen i feddwl dy fod ti yn un i'w golli. Ar hyny torodd y gŵr ieuanc allan i wylo; a dywedai fod ganddo y fam dduwiolaf fu ar y ddaear erioed. Bu R. E. yn gweddio dros y bachgen hwn am flynyddoedd yn gyson yn yr addoliad teuluaidd, ac yn holi am dano pa bryd bynag y gwelai rywun o'r wlad y perthynai iddi; ond nid ydym yn deall iddo glywed dim o'i hanes tra yn y fuchedd hon.
Yr oedd yn weddiwr mewn gwirionedd. Mae yn wybyddus y byddai yn gweddio llawer yn y dirgel; byddai yn gwbl gyson gyda'r gwaith yn y teulu; ac yn y cyfarfodydd cyhoeddus cofir byth am ei weddiau. O ein Hiesu bendigedig! meddai un tro wrth ddechreu yr ysgol, O fawredd ei ddioddefiadau! Fel