Tudalen:Hanes Methodistiaeth Corris a r Amgylchoedd.djvu/138

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Oen y Pasg gynt, yr hwn oedd i'w rostio wrth dân heb gymaint a thrwch padell na chrochan rhyngddo ar tân ; felly yntau, yr oedd heb y cyfrwng lleiaf rhyngddo â holl wres ofnadwy y digofaint dwyfol. Cofiwyd am flynyddoedd am ei weddi yn nghladdedigaeth Mary Thomas, o Fotyr Waen, pan y dywedai : Dyma ni yn awr yn rhoddi gweddillion marwol ein hanwyl chwaer yn y bedd. Diolch iti ein Tad, nad ydi hi ddim yn myned o'th law di, hyd yn nod yn y fan yma. Ei holl saint ydynt yn dy law. Diolch am hyn. Yn dy law di y mae dy saint ymhob man: yn dy law yn nghanol cystuddiau a phrofedigaethau byd; yn dy law yn angau; yn dy law yn y bedd. A dyna fydd yr adgyfodiad, ein Duw ni yn agor ei law: bydd llwch pob un o'r saint yn gwbl ddiogel ynddi. Ac yr oedd bod yn llaw Duw yn un o'r syniadau mawr ac anwyl ganddo. Clywsom ef lawer gwaith, ar derfyn cyfarfod eglwysig, pan y byddai Hugh Evans, Tynycei, wedi galw ers meityn fod yr amser i fyny, yn rhoddi y darn penill i'w ganu:

Yn dy law y gallaf sefyll,
Yn dy law y dof i'r lan;
Yn dy law byth ni ddiffygiaf,
Er nad wyf ond eiddil gwan.

Ond clywsom y canu ar y rhan olaf o'r hen dôn Moriah yn myned wedi hyny a chryn lawer yn ychwaneg o amser nag a fwriadai efe pan yn rhoddi allan yr haner penill.

Yr oedd yn wrandawr rhagorol hefyd dan y weinidogaeth. Byddai bob amser yn astud, ac yn fynych yn wylo yn hidl. Ni byddai ar unrhyw adeg yn fawr ei swn; yr unig air a ddywedai oedd Amen. Ni chlywsom ef erioed yn dywedyd Diolch iddo, Bendigedig, na dim arall: ond wylai nes y byddai ei lygaid yn gochion, a'i lais hefyd yn diffygio. Ac ar ol yr amlygiadau hyn o deimlad, ceid yn y cyfarfod eglwysig adroddiad melus ganddo o'r gwirioneddau a garient y fath effaith ar ei ysbryd. Rhoddai yn wir arbenigrwydd Yn. wastad ar y weinidogaeth; a chymhellai bawb i ail—adrodd yr hyn y gallent ei gofio o'r pregethau.