Tudalen:Hanes Methodistiaeth Corris a r Amgylchoedd.djvu/139

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ond yr oedd pob peth ynddo, ei gymeriad difrycheulyd, ei dduwiolrwdedd dwfn, ei weddiau taerion, a'i deimladau dwysion y cwbl yn fanteisiol i'w ddylanwad yn yr eglwys pan yn ymgeleddu y saint. heblaw gwerth cynhenid yr hyn a ddywedid ganddo yr oedd pwysau y fath gymeriad yn dyblu y dylanwad. Ond anaml y gwelwyd neb yn meddwl llai o hono ei hun, nac yn gosod gwerth uwch ar ei frodyr. Pell fyddai o gymeryd i fyny yr amser ei huuan; yn wir, byddai ar adegau yn treulio cymaint o hono i gymell eraill, yn hytrach na myned ymlaen ei hun, nes y byddai amynedd rhai brodyr yn pallu. Wedi i'r Parchedig Ebenezer Jones ddyfod i Gorris, gwahoddid ef yn fynych i Aberllefenni i gadw seiat; ac nid oedd neb yn gwerthfawrogi ei gynorthwy yn fwy na Rowland Evans. Pan y byddid yn derbyn ymgeiswyr at Fwrdd yr Arglwydd, yn enwedig, ni theimlai yn hapus heb ei gymorth. Nid oedd dim yn bellach oddiwrtho na hunan—hyder. Ond yr oedd pobl eraill yn rhoddi ynddo yr hyder llwyraf; a theimlai ei frodyr yn gwbl galonog i wynebu ar unrhyw orchwyl os byddai ef yn bresenol.

Rhaid i ni gymeryd golwg arno cyn terfynu mewn un cymeriad arall. yn ei gladdedigaeth, dywedai ei hen gyfaill, a'i gydswyddog hefyd am lawer o flynyddoedd, y diweddar Samuel Williams, Pregethwyr oedd Rowland Evans, a phregethwr da iawn. Fe bregethodd lawer, ac yn rymus iawn hefyd, yn Aberllefenni. Mae genym gof bywiog am lawer o'r amgylchiadau y cyfeiriai S. W. atynt. Wedi i ddau frawd weddio, cyfodai R. E. i ddarllen ychydig o adnodau, ac i wneuthur sylwadau arnynt, a therfynu y cyfarfod. Gwneid hyny ar adegau gan eraill, ac yn enwedig gan Samuel Williams, gyda chymeradwyaeth gyffredinol. Ond cydnabyddai pawb mai R. E. oedd y tywysog gyda hyn hefyd. Digon cyffredin weithiau fyddai y bregeth yn y prydnhawn Pell oddiwrthym fyddo dywedyd dim yn isel am y pregethwyr ffyddlawn a ddeuent i Aberllefenni