Tudalen:Hanes Methodistiaeth Corris a r Amgylchoedd.djvu/141

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

G. Wel, meddai R. E, mae arna'i ofn na fedrwn i ddim byw ar bethau'r nefoedd. Sut felly Wel, atebai R. E, chwi wyddoch na ches i fawr erioed o bethau'r ddaear yma; ond y mae yn rhaid i mi wrth ryw ychydig o aur ac arian i fyw; ac er lleied ydw i yn gael, mae arna'i ofn y teimlwn i yn chwith hebddyn nhw, pe cawn i fynd i'r nefoedd. Yn enw dyn, meddai Mr. G, ni raid i chwi ddim byw heb aur yno: onid ydyw heolydd y ddinas yn aur pur Wel, meddai yntau, pe bawn i yn siwr y gallwn i fyw ar yr aur hwnnw—Sancteiddrwydd pur,—fe ddarfyddai fy ofn am byth.

Yr ydym yn ei gofio adeg arall, mewn Cyfarfod Misol yn Aberllefenni, yn adrodd ei brofiad, pan yr holid ef gan y Parchedig David Davies, o'r Abermaw. Sut mae'r achos yma ? meddai Mr. Davies. Wel, does yma ddim byd neillduol i'w ddweyd amdano, meddai yntau; mae pobpeth yn mynd ymlaen yn eithaf tawel yma. O, yr ydych yn cytuno â'ch gilydd, ynte meddai Mr. D. Ydym, meddai R. E, ond y mae ama i ofn ein bod ni yn cytuno i gysgu. Wedi myned ymlaen i ofyn am ei brofiad crefyddol ef ei hun, tra amheus ydoedd, a hynod ofnus gyda golwg ar ei fater tragwyddol. Wel, meddai Mr. D, pur anniben ydyw yr hen Fethodistiaid yma yn gwneyd "sum" bywyd tragwyddol. Mae rhai yn ei gorphen hi mewn mynyd, a dyna'r pryder i gyd drosodd; ond am yr hen Fethodistiaid, rhyw ffigiwr yrwan a ffigiwr yn y man y mae nhw yn ei roi; ond yn y diwedd mae nhw yn bur siwr o gael y total yn iawn, bywyd tragwyddol. Fel hyn yn hollol y bu gyda Rowland Evans. Siriolodd ei feddwl yn fawr yn ystod ei gystudd yn 1866. Dywedai i'r diafol ddyfod ato yn fuan wedi ei daro gan y parlys, a dywedyd wrtho, Dyna chdi rhan : fedri di wneyd dim byth mwyach dros dy Geidwad. Ond ychwanegai, Fe ffodd ar unwaith pan y dywedais wrtho, Paham yr ymffrosti mewn drygioni, O Gadarn ? Yn ei gystudd diweddaf, yr oedd yn gwbl dawel a siriol; ac yn