Tudalen:Hanes Methodistiaeth Corris a r Amgylchoedd.djvu/142

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

wir nid oedd dim ond sirioldeb o gwbl yn ei ystafell. Yr adnod a'i cynhaliai ydoedd, Nith roddaf di i fyny, ac nith lwyr adawaf chwaith. Teimlai mai gwirionedd oedd yn y geiriau, Hyd henaint hefyd myfi yw; ie, myfi a'ch dygaf hyd oni benwynoch. Sisialai yn fynych y llinellau melus,

Hyn ywm hangor ar y cefnfor,
Na chyfnewid meddwl Duw ;
Fe addawodd na chawn farw,
Yn nghlwyfau'r Oen y cawn i fyw.

Bu farw mewn perffaith dawelwch, ac mewn llawn fwynhad o dangnefedd yr efengyl, Chwefror 1 1, 1870, pan o fewn deufis i 78 mlwydd oed. Dywedai ei hen gyfaill, Humphrey Davies, wrth gyfeirio at ei farwolaeth, nad oedd dim dadl nad i'r nefoedd yr aethai Rowland Evans, ond na bu nefoedd yn fwy amheuthyn i neb erioed nag iddo ef. Mewn hen fwthyn gwael, myglyd, y treuliodd 47 mlynedd o'i oes; ond cydnabyddid ef er hyny yn dywysog Duw ymysg yr ardalwyr; a chladdedigaeth tywysog a roddwyd iddo. Heddwch i'w lwch.

Un mab fu iddo, a phedair o ferched, ac y maent oll yn aros hyd heddyw. Mae ei fab, Lewis, a'i ddwy ferch hynaf, Ann a Mary, yn byw yn Liverpool ei drydedd ferch, Jane, yn Machynlleth; ar ieuangaf, Elisabeth, yn parhau i lynu wrth yr hen gartref.