Tudalen:Hanes Methodistiaeth Corris a r Amgylchoedd.djvu/144

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Dodwn i Iawr yn gyntaf amrywiol areithiau a draddodwyd ganddo ar achlysuron cysylltiedig a'r Ysgol Sabbothol.

I

MYFYRDOD AR YR YSGOL SABBOTHOL.

Offeryn ydyw ysgol i ddringo yn uwch, i weled yn mhellach, a gwneyd gorchwyl yn hawddach. A dyma yw yr Ysgol Sabbothol; Bum yn meddwl y gallasai un anghyfarwydd â hi dybio mai y ffordd a fabwysiedid ynddi i ddysgu darllen a fyddai dysgu un adnod i ddechreu, ac un arall, ac un arall drachefn, nes dysgu yr holl Feibl Ond nid felly; Ysgol ydyw. y peth cyntaf a ddysgir ynddi yw yr Egwyddor, yr A B C. Marciau yw y llythyrenau i adnabod seiniau penodol. Dyna A, y mae yn wahanol ei ffurf i B, ac yn wahanol ei sain; ac y mae C yn wahanol i'r ddwy mewn furf a sain. Wedi dysgu yr Egwyddor, dechreuir cysylltu y llythyrenau bob yn ddwy, yna bob yn dair, nes y gellir, bob yn ronyn, ffurfio geiriau o honynt gyda'r hwylusder mwyaf. Fel hyn y mae Duw megis wedi trefnu temtasiwn er ein dysgu i ddarllen ei Air sanctaidd. Heb ryw gynllun fel hwn, buasai dysgu darllen bron yn anmhosibl; ond wedi ei gael y mae yn hawdd a hwylus. Mae grisiau yr ysgol mor hynod fanaidd, fel y mae yn hawdd i bawb ei dringo. Ar syndod yw, nid fod cymaint yn dysgu darllen, ond fod neb o gwbl heb ddysgu. Moddion celfyddgar yw cynllun yr ysgol, i ddysgu i dlodion uniaith ddarllen meddwl Duw yn eu hiaith eu hun yn yr hon yn ganed. Diolch am yr Ysgol Sabbothol.

Gan ei bod yn foddion mor ragorol i gyraedd ei hamcan, A ydyw hi yn debyg o bara yn hir? Ydyw, canys nid pren crin a phwdr yw yr ysgol hon, ond pren byw, yn tyfu yn uwch, ac yn magu ceinciau newyddion o flwyddyn i flwyddyn. A mwyaf o ddringo fyddo arno mwyaf oll y tyfa. Nid oes dim tebyg y derfydd yr Ysgol Sul, oblegid y mae ei phendefigion a'i llywiawdwyr yn dyfod o'i mysg ei hun. Nid oes nemawr un mewn swdd ynddi na all ddywedyd am dano mai un o'r plant a fagodd ac a feithrinodd ydyw. Gall ddweyd am ei holl swyddogion, Y bobl hyn a luniais i mi fy hun, fy moliant a fynegant. Mae y meibion yn dyfod yn lle y tadau, y rhai a wneir yn dywysogion yn yr holl dir. Ac y mae ei swyddwyr y rhai goleuaf, duwiolaf, a ffyddlonaf o'i phlant. Byddwn galonog a gweithgar gyda'r ysgol, nid yw yn debyg yr arafa , yn ei gwaith. Mae llawer ysgol dda wedi arafu, am fod cyflog yr