athraw wedi ei atal; ond ni ddigwydd hyny yma. Nid oes gŵr cyflog o'i mewn. Mae ei holl swyddogion yn llafurio yn rhad. Cerdda llawer o honynt ddwy a thair milldir bob Sabbath i'r ysgol; ond gofynwch iddynt pwy sydd yn talu iddynt, yr ateb fydd, y bydd bod ar gael yn y diwedd yn llawn ddigon o wobr, ar ystynaeth y bu y llafur yn rhywfaint o les, o dan fendith Duw, i ryw bechadur. Ond fe ddaw gwobr. Mae Duw yn hir ei ymaros. Ca yr athraw y cyfarchiad ryw ddydd oddiwrth ei ddisgybl mewn geiriau cyffelyb i'r eiddo Dafydd wrth Abigail, Bendigedig fyddo yr Arglwydd, a bendigedig fyddo dy gyngor; ti am hateliaist pan oeddwn yn ymyl syrthio dros y dibyn am byth. A naturiol fydd gofyn y dydd hwnw, Pa anrhydedd a wnaed i'r gŵr hwn? Ac yna y dywedir wrtho, Da was da a ffyddlon dos i mewn i lawenydd dy yr Arglwydd.
Mae dibenion yr Ysgol Sabbothol yn ogoneddus. Cael y colledig at y Ceidwad, yr afiach at y meddyg, yr aflan at y ffynon, y marw at y bywyd. Cael Noah i'r arch rhag y diluw, Lot i Soar rhag y tân, ar llofrudd i'r noddfa cyn i'r dialydd ei ddal. Dyma brif amcan yr Ysgol Sabbothol; ond y mae yn gwneyd llawer o gymwynasau ar y ffordd wrth ymgyraedd at yr amcan hwy. Mae yn cymell i bob moesau da sydd yn harddwch i'r ddynoliaeth. Mae yn anog y plant i fod yn ufudd i'w rhieni. ac yn anog y rhieni i beidio cyffroi eu plant fel na ddigalonont. Mae yn anog y gweinidogion i fod yn ufudd a ffyddlon i'w meistriaid, ac yn anog y meistriaid i wneyd yr un peth tuag atynt hwythau. Mae yn dysgu yr is-radd i barchu eu hnwchradd, i'r ieuanc gyfodi o flaen penwyni a pharchu wyneb henuriaid. Mae yn dysgu pawb i ymddwyn yn deilwng yn ei le ei hun. A phe cyrhaeddai ei hamcan, ni byddai y fath beth mewn bod a thyngu; ni byddai na godineb na lleidr ar y ddaear. Ei hamcan yw cael y byd yn gydffurf â deddf Duw a adroddir ynddi. Ac os na lwydda ni ddigalona, ac ni phaid a'i llafur. Pe llwyddai, ni byddai angen am y carcharau yn Mhrydain a manau eraill, ac ni fyddai y fath beth yn bod a chrogbren. Brysied y dyddiau hyfryd i ben.
Peth mwyaf gweithfawr yr Ysgol yw ei Llyfr. Mae yn werthfawr fel corsen fesur, i ni wybod a ydym yn ddigon o hyd a lled i fod yn yr adeilad ysbrydol yn y nef ; fel clorian i ni i bwyso ein hunain cyn y bydd Duw yn ein pwyso yn y farn. Mae yn werthfawr fel y drych i dynn gwrthddrychau pell yn agos. Yma gwelwn Dduw yn creu y byd heb ddim defnydd ; Noah yn gwneyd ei arch, a Duw yn