Tudalen:Hanes Methodistiaeth Corris a r Amgylchoedd.djvu/146

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

boddi y byd; dinystrio dinasoedd y gwastadedd, a Lot yn dianc am ei einioes ; gweled Israel yn myned trwy y Môr Coch, ar Aiphtiaid yn boddi ynddo; yn taro y graig â'i wialen, ar dyfroedd yn dilyn Israel yn afonydd yn yr anialwch; yr Iorddonen yn troi yn ol, ac yn rhedeg tua'r mynydd yn lle tua'r môr Gallwn yma weled y pethau hyn oll megis pe yn ein hymyl. Gallwn hefyd weled pethau yn y dyfodol yma. Gwelwn ddydd mawr y farn, pan y bydd y Barnwr yn dyfod ar gymylau y nef, ac Adda a'i holl had yn ymddangos ger ei fron, i'w didoli yn ddwy dyrfa, a'u gwahanu am byth oddiwrth eu gilydd. Mae y Beibl hefyd yn werthfawr fel y drych i weled ein hunain ynddo. Dyma olwg yr ydym yn rhwym o'i chael yn rhywle. Gallai na welwn byth lawer man y clywsom am danynt; gallai na weli dy dad a'th fam, neu dy blant, ond byddi yn siwr o'th weled dy hun cyn bo hir. Ond gallwn gael hyn yn awr yn y Beibl. Gallwn yno weled y galon sydd fwy ei thwyll na dim, yr hon y mae holl fwriad ei meddylfryd yn unig yn ddrygionus bob amser, & gweled y canlyniadau ofnadwy o fyw yn ol y cnawd a gwasanaethu pechod. Gallwn yn y Beibl weled hefyd y dedwyddwch annhraethol o wasanaethu Duw a byw yn dduwiol. A gallwn ynddo ef weled Duw, yr hwn nis gwelodd dyn erioed ac nis gwêl byth. Y Beibl, sydd yn dangos y Tri yn un, ac yn dangos y môr, o gariad yn nghalon Duw at fyd colledig, a'r ffrydiau yn rhedeg o'r môr hwnw yn drugaredd a gras i galon y pechadur ar y ddaear. Llyfr y rhyfeddodau yw y Beibl. Yma y darllenwn am y Duw—a wnaeth y bydoedd â'i air wedi dyfod heb le i roddi ei ben i lawr ; y Gwr â greodd yr holl ffynhonau dyfroedd yn cael cynyg iddo y finegr a'r bustl yn ei syched; Creawdwr natur yn sugno bronau ei greadur. Ac y mae y Beibl yn werthfawr fel mynegbost i ddangos y ffordd i drafaelwyr. Mae y Beibl wedi cyfarwyddo miloedd o Gymry i'r ddinas ag iddi sylfeini, saer ac adeiladydd yr hon yw Duw. A diolch i Dduw, y mae y mynegbost yn aros ar y ffordd i ddangos y ffordd i ninau yn yr oes hon. Gwnawn sylw mawr o hono. Dychymygaf weled Cymro yn y nief yn gofyn i rai o drigolion New Zeland, Pa fodd y daethoch chwi yma? An hateb fydd, mai y llyfr da a anfonwyd iddynt o Brydain a'u cyfarwyddodd hwythau yno. .~ Bydd eu gweled eu hnnain a gweled eu gilydd yn y nef yn adgoffa i'r saint am byth werth y Beibl. A dyma Lyfr yr Ysgol Sul.

Mae yr Ysgol Sabbothol yn debyg iawn i'r llyn yn Jerusalem, yr hwn yr oedd angel ar amserau yn disgyn iddo ac yn cynhyrfu