Tudalen:Hanes Methodistiaeth Corris a r Amgylchoedd.djvu/150

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ynwyrol oedd ef. Da iawn, erbyn caethgludo Lot, ei nai, gan y brenhinoedd, oedd fod ganddo 318 o wyr yn medru trin arfau. Da yw darpar ar gyfer yr hyn nad yw yn y golwg.

Mae y rhyw fenywaidd yn derbyn cam mawr yn fynych yn y peth hwn, Mae yr eneth yn hynaf o chwech o blant, rhaid iddi siglo y cryd, a gofalu am y plant lleiaf, nes ydyw yn amser iddi droi allan i'w gwasanaeth; ac y mae yn dyfod yn wraig ac yn fam ei hun cyn iddi gael cyfleusdra i ddysgu gwneuthur y gorchwylion angenrheidiol iddi yn ei theulu. Er myned i'r sefyllfa briodasol yn eithaf anrhydeddus, bydd hi a'i theulu yn dioddef oherwydd yr anfantais hon.:

Rhaid talu o enillion prinion ei gwr am wneuthur gorchwylion y dylasai fod wedi cael ei dysgu i'w cyflawni ei hunan.

2 Addysg foesol. Mae Llyfr y Diarhebion yn frith o gymhellion at rinweddau moesol. Dysgir i ni yma foesgarwch mewn amgylchiadau cyffredin, yr hyn sydd yn harddwch i ddynoliaeth ac yn ogoniant i grefydd. Dysgir ni i beidio diystyru y tlawd, i beidio troi ein llygaid oddiwrth yr anghenus. Gelwir arnom i gyfodi gerbron penwyni a pharchu wyneb yr henuriaid, ar cyffelyb. Mae yn y Llyfr hefyd gymhellion cryfion at y Rhinwedd prydferth o ddiweirdeb, yr, hwn y mae ein diffyg ni o hono wedi ein darostwng fel gwlad. Mae hyn yn sefyll i raddau wrth ddrysau y rhieni. Yr oedd Solomon yn rhoddi addysg fel tad, ac yn dywedyd fod y fam yn gwnenthur hyn yn gyfraith. Diau fod rhy fychan o godi ar y rhinwedd hwn gartref ar yr aelwyd, trwy ei ddangos yn ddymunol ynddo ei hun, ac yn dwyn hefyd gydag ef fendith ac amddiffyn yr Arglwydd. Ond gallai yr athraw wneyd llawer er meithrin y rhinwedd hwn yn ei ddosbarth, pe bai yn arfer ei ddylanwad gydai ddisgyblion. Gallai ddangos iddynt mor ddyniunol ydyw myned i'r sefyllfa briodasol yn anrhydeddus, yn annibynol ar bob ystyraethau crefyddol. Mae anniweirdeb yn drygu y wlad ymhob ystyr; er nad oes angen cadw o'r golwg y canlyniadau eithaf "Y neb a becho yn fy erbyn a wna gam â'i enaid ei hun. Deffroed Ysbryd yr Arglwydd rieni, athrawon, a gweinidogion yr efengyl i godi eu llef yn y dyddiau hyn yn erbyn yr anwiredd hwn.

3 Addysg grefyddol. hyfforddia blentyn ymhen ei ffordd, a phan heneiddio nid ymedy â hi. Mae y plentyn yn fwy ei werth na chun o aur dilin, ie, na'r holl fyd, pe buasai pob llwchyn o hono yn aur. Nid oedd dim yn ddigon o werth i brynu plentyn ond y Duw a wnaeth y byd â'i air, a hyny wedi ymuno â natur y plentyn,