Tudalen:Hanes Methodistiaeth Corris a r Amgylchoedd.djvu/151

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

a marw yn y natur hono. Er gwerth ych prynwyd; gan hyny gogoneddwch Dduw yn eich corff ac yn eich ysbryd. Mae yn gwaredwr tragwyddol ei barhad. Pe rhifld sêr y nef, tywod y môr, wellt y ddaear, dail y coed, a phob blewyn ar gefn pob anifail ar wyneb y ddaear, a rhoddi blwyddyn, ie, mil o flynyddoedd am bob un o honynt, ni byddai y cwbl yn ddim yn ymyl oes y plentyn. o greadur rhyfedd ac ofnadwy Hyfforddia ef ymhen ei ffordd.

Pa le y mae y ffordd? Yn y Beibl. Map ydyw'r Beibl, ac y mae ffordd y plentyn yn line trwyddo yn gwbl eglur. Pa le y mae yn dechreu? Yn y man y mae y plentyn yn dechreu bod ; ac y mae yn dibenu yn nef y gogoniant. Ffordd y bywyd sydd fry i'r synwyrol, i ochel uffern obry. Gan ei fod ef yn synwyrol, gall fyned y ffordd a fyno? Na, rhaid iddo fyned ar i fyny bob cam. Er gweled lluoedd yn treiglo i lawr i'w gyfarfod bob dydd tua cholledigaeth, rhaid iddo gadw ei olwg i fyny. A oes perygl iddo golli y ffordd? Nac oes, ond cadw ei olwg ar y mynegbyst. Ac y mae y rhai hyn mor aml. Na ddilyn liaws i wneuthur drwg. Na fydd ymysg y rhai sydd yn meddwi ar win. Nac edrych ar y gwin pan fyddo coch. Cadw yn bell oddiwrthi hi. Na nesaf at ddrws ei thŷ hi. Ac y mae y manau peryglus yn cael eu dangos yn y llyfr. Fel y light house yn dangos i'r morwr y graig yr aeth llawer llong i lawr arni; felly y mae y manau peryglus wedi eu nodi allan yn y Beibl gan gwymp a dinystr y rhai a syrthiasant ynddynt. Ac y mae yr Iesu yn esiampl berffaith, "Gan edrych ar Iesu."

A phan heneiddio nid ymedy â hi. Edrychwch ar y plant a gawsant hyfforddiant priodol, megis Moses, Samuel, Jeremiah, Ioan Fedyddiwr, a Timotheus Trwy hyfforddiant boreu y mae gochelyd codymau peryglus, ac yn enwedig y mae gobaith dyfod yn ddefnyddiol iawn gyda chrefydd.


Yn Canlyn y mae dau Fater Ysgol a barotowyd ganddo :

I

ATHRAWIAETH Y CYFRIFIAD.


I. GOFYNIAD. Pa bethau a welir yn athrawiaeth y cyfrifiad?

Atebiad 1. Cyfrifiad o bechod cyntaf Adda i'w holl had naturiol.
2. Cyfrifiad o bechodau yr eglwys ar Grist.
3. Cyfrifiad o gyfiawnder Crist i'w eglwys.