Tudalen:Hanes Methodistiaeth Corris a r Amgylchoedd.djvu/163

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

blaid yr ysgol ddyddiol; ac edrychid arno ef fel yr ysgolor goreu o ddigon ymhlith yr ardalwyr. Bu farw yn ddyn cymharol ieuanc; ac nid ydym yn sicr fod yn awr yn aros yr un o'i blant. Haedda ei enw goffadwriaeth parchus ymysg y rhai sydd hyd heddyw yn mwynhau ffrwyth ei lafur ef, ac yn manteisio ar ei ddylanwad.

Un tra gwahanol iddo ydoedd Peter Ifan, Fotty'r Waen. Nid ydym yn ei gofio ef; ond cofiwn yn dda glywed am ei ffyddlondeb i foddion gras yn ngwyneb llawer o anfanteision. A dyn gwir grefyddol ydoedd, er nad oedd yn nodedig am allu meddyliol, nac ychwaith am eangder ei wybodaeth. Yr oedd ei gymeriad yn beraroglaidd yn y gymydogaeth ymhell ar ol ei ymadawiad. Ymadawodd ef a'i deulu i'r America; ond y mae wedi gorphen ei yrfa ddaearol ers llawer o flynyddoedd, a chyraedd yn ddiau i'r breswylfa lonydd. Cyfeiriwyd eisoes amryw weithiau at Samuel Williams, Rugog, gynt o Ffynonbadarn, a haeddai goffâd llawnach nag y goddef ein terfynau i ni i'w roddi.

Brodor ydoedd o ardal Dinorwig yn Sir Gaernarfon.; Yr oedd iddo amryw frodyr; a threuliodd un o honynt, Dafydd William, y rhan fwyaf o'i oes yn ardal Corris. Bu farw eu tad pan oedd rhai o honynt yn lled ieuanc. Noson ei gladdedigaeth, yr oeddynt oll yn eistedd gydau mam, ac yn barod i ymneillduo i orphwys, pan y dywedodd wrthynt, Wel, fy mhlant i, byddai yn well i chwi fynd ich gwely; does yma mo'ch tad heno i gadw dyledswydd. Ar hyn torodd un ohonynt, ac un o'r rhai gwylltaf, allan i wylo, gan ddywedyd, "Da i ddim i'r gwely nes i rywun gadw dyledswydd" a bu raid gwneyd y cais y noson hono. Bu y tro yn fendith i'r teulu byth.

Ond ymhen rhai blynyddoedd y daeth Samuel Williams i mewn i eglwys Dduw. Daeth i ardal Corris oddeutu 1826 neu 1827. I Chwarel Rhiwgwreiddyn y daeth i weithio ar y