Tudalen:Hanes Methodistiaeth Corris a r Amgylchoedd.djvu/164

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

cyntaf, a bu yno am ddau fis. Bu am dri neu bedwar mis I wedi hyny yn Llwyngwern, cyn myned i fyny i Chwarel Aberllefenni. Bu yn lletya am oddeutu blwyddyn gyda Dafydd Humphrey, yn Abercorris; ac am dymor wedi hyny yn y Briws yn Aberllefenni. Clywsom ef yn dywedyd ei fod wedi priodi ers dwy flynedd cyn troi ei wyneb at bobl yr Arglwydd, a'i fod ar y pryd yn 26 mlwydd oed. Cefais y fraint, meddai, o ymuno âg achos Iesu Grist pan oedd yn yr ystabl. Yr oeddid yn ail adeiladu capel Rehoboth ar y pryd, ar Cyfarfod eglwysig yn y cyfamser yn cael ei gynal yn ystabl y Fronfelen.

Merch Richard Edwards, Aberllefenni, oedd ei wraig, yr hon, fel y crybwyllwyd eisoes, sydd yn awr yn byw yn y Rugog. Yn Ffynonbadarn y buont am flynyddoedd; ond symudasant oddiyno i Bryneglwys, Abergynolwyn; a dychwelasant oddiyno drachefn i'r Rugog. Bu S. W. yn flaenor yn Aberllefenni, Abergynolwyn, a Bethania, ac yn llanw lle pwysig ymhob un honynt.

Yr oedd yn ŵr o feddwl cryf a gafaelgar, ac yn gadarn yn: yr Ysgrythyrau. Yn ei ddawn, yr oedd gradd o afrwyddineb ond yr oedd rhyw swyn hyd yn nod yn ei besychiad; a phan y gwresogai, siaradai yn rymus mewn gwirionedd. Nid oedd neb ond efe a Rowland Evans yn flaenoriaid yn Aberllefenni am flynyddoedd wedi ffurfio eglwys yno, ac ni bu dau frawd erioed yn cydweithio yn fwy hapus. Meddyliai R. E. yn uchel iawn o S. W, ac yntau yr un modd o R. E, tra y meddyliai yr holl eglwys yn uchel o'r naill ar llall. Nid oedd y naill yn foddlawn i wneuthur un gorchwyl heb fod gan y llall ran ynddo; ac yr oedd ymadawiad S. W. i Abergynolwyn yn chwerw i deimlad y ddau. Yn yr Ysgol Sabbothol, a'r Cyfarfod Eglwysig, byddent yn wastad yn cyd-dynu yn y modd mwyaf dedwydd a chymerai S. W. yn dawel ei dro yn y cyfarfod gweddi ar nos Sabbath i esbonio penod.

Cymeriad cryf oedd Samuel Williams, ac yn cael ei gydnabod