Tudalen:Hanes Methodistiaeth Corris a r Amgylchoedd.djvu/168

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

neillduol iddo am lawer o garedigrwydd. Cawsom y fraint o fod yn ei ddosbarth yn yr Ysgol Sabbothol; a phan yn dechreu pregethu dangosodd tuag atom bob sirioldeb. Daeth gyda ni i liaws o leoedd y danfonid ni iddynt yn ystod y prawf rhagarweiniol fu arnom, cyn dwyn ein hachos i'r Cyfarfod Misol; ac nid yw ond naturiol i ni deimlo yn anwyl tuag at ei goffadwriaeth.

Yr oedd Robert Lumley yn ddyn deallus, ac yn glir ei syniadau am yr athrawiaeth; a rhoddai lawer mwy o le i wirionedd nag i deimlad gyda chrefydd. Yr oedd hefyd yn ddyn agored a didderbyn—wyneb. Mae wedi ei alw adref bellach ers blynyddoedd, a'i weddw hithau wedi ei ddilyn. Yr un modd, y mae amryw o'i blant hefyd wedi meirw; ar rhai sydd yn aros wedi eu gwasgaru oll o'r gymydogaeth lle y dygwyd hwynt i fyny.—

Arosodd Richard Jones yn Aberllefenni hyd ei farwolaeth. Gŵr a llawer o neillduolion yn perthyn iddo ydoedd ef; ac eto yn gymeriad prydferth dros ben. Yn ddyn ieuanc yr oedd yn dra distaw, ond yn ei flynyddoedd diweddaf daeth yn llawer mwy siriol a siaradus. Nid ydym yn cofio i ni adnabod neb wedi rhoddi crefydd yn mlaenaf yn fwy llwyr. Gofalai am ei amgylchiadau bydol lawn cystal ar cyffredin o'i gymydogion; ond ni oddefai iddynt ymyryd o gwbl â'i gysondeb yn moddion:

gras. Gwelwyd ef yn mwdylu y gwair yn lle ei gario ar noson. y Cyfarfod Eglwysig, er fod rhagolygon y tywydd yn eithaf bygythiol. Yr oedd dylanwad y diweddar Barchedig Owen Roberts, Llwyngwril, yn lled amlwg arno yn hyn. Pan oedd y gŵr hwnw yn lletya gydag ef, cyn iddo symud i'r ardal i fyw, digwyddodd i'r teulu gysgu braidd yn hir un boreu; a dywedodd un o honynt, "Mae arna i ofn na chawn i ddim dyledswydd heddyw. Na, meddai Mr. Roberts, gadewch i ni gael dyledswydd; maen well gen i fynd allan heb frecwast nac heb ddyledswydd. Clywsom R. J. yn adrodd y