Tudalen:Hanes Methodistiaeth Corris a r Amgylchoedd.djvu/169

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

sylw yn fynych; a theimlodd yn ddwys oddiwrtho. Meddyliai wrth ei gymharu ei hun â Mr. R. ei fod yn bell o roddi crefydd a'i hordinhadau yn eu lle priodol; ond ni theimlai neb arall felly gyda golwg arno.

Bu ei gymeriad. bob amser yn hynod ddilychwin; ac yr oedd yn ddwfn yn serch ei holl gymydogion. Nodwedd arbenig ei grefydd yn ddiau ydoedd meddwl mawr am y Gŵr sef am y Gwaredwr. Yr hyn a hoffai yn fwy na phob peth arall yn y weinidogaeth ydoedd dyrchafu person yr Arglwydd Iesu. Mynych y dywedodd am bregethau o'r nodwedd yma: Roeddwn i yn teimlo wrth wrando y buaswn yn mentro'r Gŵr pe buasai gen i fil o eneidiau. Mi fuaswn yn eu rhoddi iddo bob un. A bron nad oeddwn i, fel y clywais am un, yn dymuno eu bod genyf er mwyn eu rhoddi oll iddo. Dywedai y pethau hyn gyda theimlad dwys, gan eu hail adrodd unwaith ac eilwaith. Yr oedd yn ddarostyngedig i ofn ar adegau; ond gwyddai beth oedd cyfodi ar adegau eraill i dir tra chysurus gyda chrefydd,

Yn erbyn pechod yr oedd yn llym ac ni oddefai yr olwg ar unrhyw arferiad ddrygionus yn codi ei phen yn y gymydogaeth heb wneyd a allai i'w gwrthwynebu. Bu yn ddirwestwr zelog; a safodd yn gryf bob amser o blaid cadw yr eglwys yn gwbl lân oddiwrth y diodydd meddwol. Ofnai rhag i burdeb y ddisgyblaeth fyned i lawr yn ei ddwylaw; ond er y cwbl nid ydym yn tybio fod neb erioed wedi meddwl am lymder na gerwinder yn elfenau amlwg yn ei gymeriad. Fel gŵr ffyddlawn, ymroddedig i achos crefydd a gŵr ag yr oedd ei dduwioldeb uwchlaw amheuaeth y mae ei goffadwriaeth yn byw yn meddyliau ei gymydogion. Gallesid disgwyl am lawer yn ychwaneg o wasanaeth oddiwrtho; ond gymrwyd ef ymaith yn nghanol ei flynyddoedd. Mae ei goffadwriaeth yn fendigedig.

Yn y gweddill o'r benod hon, cymerwn y pleser o wneuthur crybwyllion byrion am nifer o frodyr a chwiorydd fuont mewn