cysylltiad â'r achos yn Pantymaes yn nyddiau Rowland Evans, ond ydynt oll, fel yntau, wedi cyraedd, ni a hyderwn, i'r trigfanau nefol. Nid ydym yn proffesu ysgrifenu darluniad cyflawn o gymaint ag un o honynt. Gadewir hefyd orchudd marwolaeth i orphwys ar bob diffyg a berthynai iddynt. Mynych y dywedai Rowland Evans, wrth sylwi ar y geiriau, "Meddyliwch am eich blaenoriaid, * * * * ffydd y rhai dilynwch," nas gallwn ddilyn pob peth yn ein blaenoriaid, Fe lithrodd, meddai, am un o honynt; ond nid ydym i'w dilyn yn eu llithriadau. Ffydd y rhai dilynwch. Gofalwn am ddilyn yr hyn oedd dda ynddynt, gan osgoi pob peth i'r gwrthwyneb. Gwyddom am ddiffygion lled bwysig mewn rhai o'r brodyr a enwir genym; ond nid oes i'r sylwadau canlynol un amcan pellach na chadw yn fyw y da a berthynai iddynt. Maent oll yn anwyl yn ein golwg; ac nid oes ynom y dymuniad lleiaf at ddim ond gwneuthur yr ychydig a allem er anrhydeddu eu coffadwriaeth. Bydd yn amlwg ar yr un pryd oddiwrth—ein nodiadau nad oeddynt oll yn sefyll ar yr un tir.
Y rhai hynaf braidd y gallwn ni eu cofio oeddynt David ac Anne Evans, y Ddolgoed; tad a mam Hugh Evans, yr Hengae, y diweddar Morris Evans a David Evans, y Ddolgoed, y diweddar Evan Evans, Gwastadfryn, ar ddiweddar Mrs. Owen, Mathafarn, Llanwrin. Yr oedd Anne Evans yn un o'r aelodau hynaf pan aethom i Aberllefenni yn 1852 merch ydoedd i Hugh Humphrey, Llwydiarth. Yr oedd yn wraig ddistaw, ac o deimladau gwir grefyddol. Adroddwyd wrthym yn ddiweddar iddi farw mewn llawn sicrwydd gobaith. Yn ei chystudd, casglodd ei theulu. ol chwmpas, a mynodd addewid oddiwrth bob un o honynt nad oeddynt yn aelodau crefyddol y byddai iddynt, heb golli amser ymuno âg eglwys Dduw. Crefydd fach, meddai, oedd gen i bob amser ond a welwch chwi beth mor fawr sydd yn dyfod heddyw oddiwrth grefydd fach? Beth pe buasai gen i grefydd fawr fel crefydd