Tudalen:Hanes Methodistiaeth Corris a r Amgylchoedd.djvu/171

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Rowland Evans? Y peth ffolaf erioed ydyw bod heb grefydd. Yn mîn ei fedd yr ymunodd David Evans â'r eglwys; a golygfa effeithiol iawn oedd ei weled yn troi at bobl yr Arglwydd yn ngwendid henaint. Dangosai y teimladau mwyaf dymunol. Gwnaethai garedigrwydd i achos crefydd flynyddoedd lawer cyn hyny, sydd yn galw arnom i wneuthur crybwylliad parchus am ei enw. Yn ardal Carmel, gerllaw Llanfachreth, yr oedd dymuniad am gapel; ond yr oedd y tir oll, oddieithr fferm Ystum—gwadnau yn eiddo i foneddwr a lywodraethid gan y teimladau mwyaf gelynol at Fethodistiaeth. Eiddo David Evans oedd y fferm uchod; ac er gwaethaf pob dylanwad i'r gwrthwyneb, rhoddodd dir i adeiladu capel arno; ar capel hwnw yw Carmel. Capel Ystum—gwadnau y gelwid ef ar y cyntaf; ond un tro, pan oedd y diweddar Barchedig John Williams, Llecheiddior, yr hwn a breswyliai ar y pryd yn y gymydogaeth, yn pregethu ynddo gyda grym neillduol ar Elias ar ben Carmel, dywedodd yn nghanol ei hwyl, Yr wyf yn dymuno am i'r lle hwn gael ei alw yn Garmel tra byddo yma gareg ar gareg o hono. A thra phriodol yw yr enw ar gyfrif uchelder y lle y saif y capel arno.

Fel y sylwyd, nid oes yn awr ond un o'u plant yn aros, ac y mae yntau yn hynafgwr. Haedda Morris Evans grybwylliad parchus fel y cyntaf o honynt a ymunodd âg eglwys Dduw. Bu yn athraw i ni yn yr Ysgol Sabbothol am flynyddoedd; ac y mae genym adgof hapus hyd heddyw am y tymor y buom dan ei addysgiaeth. Bu yn Aberllefenni am wyth mlynedd; ac wedi hyny dychwelodd eilwaith i'r Ddolgoed. Dangosodd ar lawer adeg garedigrwydd mawr at achos crefydd. Cymerwyd ef ymaith yn nghanol ei ddyddiau. Mae ei weddw a dwy ferch iddo yn aros eto yn Ngheiswyn.

Un a fu mewn cysylltiad â'r achos yn Aberllefenni, ni a gredwn, o'i gychwyniad hyd adeg ei farwolaeth ydoedd Hugh Evans, Tynycei, neu, fel y gelwid ef bob amser gan ei gymydogion