Huw Ifan. Cadw yr amser oedd ei swydd ef, yn y chwarel ac yn y capel. Efe fyddai yn canu y corn i alw y chwarelwyr at, a'u gollwng oddiwrth eu gwaith am flynyddoedd; ac efe hefyd a ganodd y gloch, wedi ei chael, hyd ei farwolaeth. Gofalai hefyd am yr amser yn y capel. Byddai yn dra anesmwyth os na ddechreuid mewn pryd; ac edrychai yn gilwgus.. hefyd os na therfynid yn yr adeg briodol; ond nid oedd yn y mater hwn mor fanwl a William Jones, Tanyrallt. anfynych y gwelid Rowland Evans yn y gwasanaeth ar ei ddechreu; a llawer gwaith y danodwyd iddo ei fod am wneyd y golled i fyny ar ei ddiwedd. Yn yr Ysgol Sabbothol, nid oedd ceidwad yr amser yn cael unrhyw anhawsder; a therfynid y darllen, o leiaf, yn gwbl brydlon. Dyn bychan o gorffolaeth oedd Hugh Ifan, hynod fywiog a ffraeth; ond heb fod yn hynod am werth ei alluoedd. Un o'i hoff benillion oedd:
Mae arnaf eisiau zêl a chariad at dy waith;
Ac nid rhag ofn y gosp a ddel, nac am y wobr chwaith
Ond gwir ddyniuniad llawn, ddyrchafu'th gyfiawn glod,
Am i ti wrthyf drugarhau, a chofio am danai erioed.
Y prif brawf ganddo yn wastad fod rhywbeth gwirioneddol rhyngddo a Iesu Grist oedd ei fod yn caru y brodyr. Dyma y profiad diweddaf a adroddwyd ganddo yn y cyfarfod eglwysig. Nid oeddym wedi sylwi ar hyn nes yr adgoffwyd ni o'r ffaith gan Elizabeth Parry, merch John ac Anne Parry, ar ei gwely angau. Cofia y rhai a adwaenent y chwaer hon ei bod yn nodedig ymysg chwiorydd ieuainc y gymydogaeth am, ei gwybodaeth, ac am ei medr hefyd fel athrawes; ond yn ei chystudd diweddaf, yr oedd yn hynod dywyll ar ei meddwl. Dywedai wrthym un tro: "Does gen i ddim i bwyso arno heddyw ond profiad hwn Ifan, yn y seiat olaf y bu ynddi. Yr ydw inau yn siwr, fel yntau, fy mod yn caru y brodyr." Os rhoith Duw fi yn uffern, mi fyddaf gyda dynion na bu dim â wnelwn â hwynt yn y byd yma erioed. Mi wn i mai nid y