Tudalen:Hanes Methodistiaeth Corris a r Amgylchoedd.djvu/173

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

rheiny ydi mhobol i. Nid oes dim amheuaeth yn meddwl neb a'u hadwaenai nad yw y naill ar llall yn awr yn gwbl ddiogel a dedwydd gydar Iesu.

Mae Mary Evans, gweddw R. E, wedi ei ddilyn bellach, yn hen ac yn gyflawn o ddyddiau. Gwraig fywiog iawn ydoedd yn ei dydd, a thra chyson a ffyddlawn yn moddion gras. Bu farw eu mab hynaf, Evan Evans, Blue Cottages, o'u blaen. Mab iddo ef ydyw Hugh Evans, sydd yn awr yn flaenor yn eglwys Aberllefenni; ac y mae amryw eraill o'i blant yn aros, ac yn dra defnyddiol gyda chrefydd. Mae dau eraill o blant Tynycei wedi meirw, Mary a Richard; mae Robert a Griffith yn Nghorris, a'r gweddill mewn gwahanol barthau yn yr America. Bu Robert yn flaenor yn Aberllefenni am rai blynyddoedd cyn iddo symud oddiyno i fyw.

Cyfeiriwyd eisoes at Robert Jones, Machine. Bu yntau mewn cysylltiad â'r achos yn Aberllefenni o'i gychwyniad. Yr oedd ynddo lawer o'r elfenau angenrheidiol mewn arweinydd; a chyda dau achos yn neillduol bu am lawer o flynyddoedd yn arweinydd llawn o yni ac ymroddiad, achos addysg ac achos sobrwydd. Llafuriodd yn ddiwyd iawn, mewn cysylltiad â'i brodyr eraill, i sicrhau manteision addysg i'r gymydogaeth; a mynych y llanwodd y swydd o lywydd y Gymdeithas Ddirwestol. Yn yr Ysgol Sabbothol hefyd bu yn athraw ffyddlon, ac yn cymeryd ei ran fel holwyddorwr ; a bu gyda hyny amryw weithiau yn arolygwr. Bu farw Medi, 1883, wedi cyraedd oedran teg. Dwy ferch a phedwar mab a adawyd ganddo; ac y mae ei weddw eto yn aros.

Ychydig allwn ni gofio am y gŵr ffyddlawn Hugh Owen, y Waen. Er byw ymhell oddiwrth y capel, yr oedd yn dra chyson yn moddion gras; ac yn un o golofnau yr Ysgol yn y Fronfraith. Bu farw yn ddyn lled ieuanc. Mae ei weddw yntau, Susannah Owen, yn awr yn fyw, ac yn preswylio yn y Waen.

Arweinir ni yn y fan hon i wneuthur crybwylliad am