Tudalen:Hanes Methodistiaeth Corris a r Amgylchoedd.djvu/174

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Abraham, a Jane Williams, Crachfynydd; y rhai a fuont ill dau am flynyddoedd meithion yn aelodau yn Aberllefenni. Hen ŵr bywiog, ffraeth oedd A. W.; a hen wraig graff a chyrhaeddgar oedd J. W. Digwyddodd llawer o bethau digrifol mewn cysylltiad âg A. W, y rhai y gellid llanw amryw dudalenau difyrus â hwynt. Ond arweinid ni felly oddiwrth yr amcan sydd genym mewn golwg. Calfin cryf ydoedd ef; ac mewn dadl unwaith yn y Foel Grochan, ar Gwymp oddiwrth ras, dywedai un brawd o olygiadau Arminaidd, Yr ydw i yn siwr, pe bawn i yn marw heddyw, yr awn i i'r nefoedd; ond ni wn i ddim sut fydd hi yfory. Rhoddodd A. W. gyfeiriad annisgwyliadwy i'r ddadl trwy ddweyd:— Byth o'r fan yma: mae arna i awydd dy ladd di, gael i ti fynd ac aros yno. Yn nghanol ei holl ddigrifwch, yr oedd yn wir dduwiol, ac yn un a hoffid yn fawr gan ei gymydogion.

A chyn i ni adael Cwm yr Hengae, nid anmhriodol fyddai crybwyll am deulu Fottyr Waen, Dafydd Tomos, ei briod, a'i fam-yn-nghyfraith, Un llawn o zêl er heb wybodaeth helaeth, oedd D. T.; ond yr oedd ganddo ddawn gweddi lled felus. Yr oedd yn Fethodist twymngalon, a gwae fyddai i'r hwnw a feiddiai ddywedyd gair yn erbyn y Methodistiaid. Dioddefodd gystudd poenus rai blynyddoedd cyn ei farwolaeth a adawodd ei ol arno am y gweddill o'i oes. Nid oes un amheuaeth nad oedd yn Gristion cywir. Mae ei fab David Thomas yn awr yn un o flaenoriaid yr eglwys yn Aberllefenni.

Bu farw ei briod, Mary Thomas, yn wraig ieuanc; a chadwyd ei dŷ ar ol hyny gan ei fam-yn-nghyfraith, Ellin Edward, fel y gelwid hi bob amser, Nel Edward. Yr oedd yn chwaer Susannah Stephen; ac yr oeddynt ill dwy ymysg aelod hynaf yr eglwys yn nyddiau ein mebyd. Edrychem ni yn wastad yn uchel ar y ddwy; ac yr oeddynt yn ddiau yn nodedig o synwyrol a chrefyddol. Daw enw y ddiweddaf dan sylw mewn cysylltiad â'i phriod.