Cwpl a haeddant grybwylliad parchus ydyw John Michael a'i briod, Catrin William. O Lanllyfni y daethant hwy i Aberllefenni; ac yr oedd ef yn swyddog eglwysig yn y lle hwnw cyn ei symudiad oddiyno. Yr oedd ganddo ddawn neillduol i siarad ac i weddio, er nad oedd ei wybodaeth yn helaeth iawn. Ond yr oedd mwy o hynodrwydd yn perthyn i Catrin William. O'r holl hen chwiorydd yn yr eglwys, hi oedd y fwyaf parod i adrodd ei phrofiad o honi ei hun. Ac oherwydd ei pharodrwydd mynych y disgynai i'w rhan y fraint o roddi cychwyniad i'r Cyfarfod Eglwysig. Eisteddai bob amser yn yr un lle; ac ni feddyliai neb am eistedd yno ond yr hen chwaer. Wrth ei hochr, eisteddai yn wastad Lowri Ifan, Yr Hen Ffactri, hen chwaer ffyddlawn arall fyddai yn mwynhau moddion gras yn rhyfeddol, er na byddai ganddi un amser ryw lawer i'w ddweyd. Mae hiraeth yn llanw ein mynwes wrth gofio am yr hen famau anwyl hyn yn Israel.
Daeth enw Dafydd Humphrey, Blue Cottages, ger fron mewn penod flaenorol. Perthynai iddo yntau neillduolion corfforol a meddyliol. Oherwydd rhyw afiechyd a gafodd yn lled gynar yn ei oes, bu ei gnawd yn chwyddedig dros y gweddill o honi; ac mewn canlyniad byddai syrthni a chysgadrwydd yn brofedigaeth barhaus iddo. Cysgai yn wastad yn y capel; ac er hyny cofiai fwy o'r pregethau na neb a'u gwrandawai. Cysgai hyd yn nod wrth ymddiddan â'i gyfeillion. Yr oedd ganddo gŵr da a dawn i adrodd yr hyn a gofiai; ond mynych y gollyngai y stori ar ei chanol i gael hûn Gafaelai er hyny ynddi eilwaith, wedi deffro, yn hollol yn y man y gadawsai hi. O ran gwybodaeth a chraffder meddyliol, yr oedd yn rhagori llawer ar y cyffredin; a byddai yn dda genym yn nyddiau ein mebyd ei glywed yn dechreu y cyfarfod gweddi, am y darllenai yn gyffredin ryw gyfran ddyddorol o'r llyfrau hanesiol yn yr Hen Destament. Yr oedd yn deall yr athrawiaeth yn well na'r