rhan fwyaf o'i frodyr; ac yr oedd yn tra rhagori arnynt yn y gwerth a roddai ar ranau hanesyddol yr Ysgrythyr.
Cafodd ei weddw, Jane Humphrey, fyw am nifer o flynyddoedd ar ei ol; ond y mae hithau bellach wedi ei ddilyn i'r trigfanau nefol. Nid oes yn awr o'u plant yn Aberllefenni ond Mary, eu hunig ferch, priod Mr. John Davies. Mae y meibion sydd yn fyw, oll yn yr America; ac y mae un o honynt, Mr. Evan D. Humphreys, Fair Haven, Vermont, yn bregethwr cymeradwy ers llawer o flynyddoedd gyda'r Methodistiaid.
Cwpl arall nas gallwn fyned heibio heb wneuthur crybwylliad serchog am danynt ydyw John ac Anne Parry, Tyr Capel. Ni feddyliodd neb erioed fwy o'r fraint o letya gweinidogion y Gair na'r ddau hyn; ac yr ydym yn sicr fod lliaws o'r rhai fuont yn aros gyda hwy yn cofio gyda diolchgarwch am eu caredigrwydd. Bychan oedd gwybodaeth John Parry; a bychan hefyd oedd ei awydd am wybodaeth. Mynych y clywsom ef yn sylwi ar gwestiynau a ofynid iddo : Dydw i ddim yn meddwl fod hwna yn hanfodol. Byddai yn eithaf tawel heb wybod pob peth nas gellid ei brofi yn hanfodol. Gyda chaniadaeth y cysegr y bu ef yn fwyaf llafurus. Yr oedd ganddo ddawn naturiol at ganu; ac yn rhinwedd y ddawn hono, yn hytrach na thrwy unrhyw wybodaeth neillduol am gerddoriaeth, y llwyddodd i fod o wasanaeth am flynyddoedd gyda'r canu. Glynodd yn ffyddlon wrth y swydd o arweinydd y gân am lawer o flynyddoedd; a dygodd fawr zêl dros y canu hyd derfyn ei oes. Gwyllt iawn ei dymer ydoedd yn naturiol; ond yr oedd gwaith gras yn amlwg iawn arno hyd yn nod yn y mater hwn. Gwyddai am ei wendid, ac er llithro yn fynych ymdrechai drachefn arfer gwyliadwriaeth; ac am ei faddeugarwch yr oedd yn adnabyddus i bawb. Yn ei gystudd diweddaf teimlai yn gwbl dawel mewn ymorphwysiad ar ei Waredwr.
Lled ddistaw fyddai yn y Cyfarfod Eglwysig: ond yr oedd yn ddiau yn wir grefyddol. Yr oedd Ann Parry yn llawer