Tudalen:Hanes Methodistiaeth Corris a r Amgylchoedd.djvu/177

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

mwy profiadol, ac o dymer gwbl wahanol. Arafaidd a mwynaidd fyddai un bob amser ac ni welwyd neb erioed yn caru Iesu Grist a'i achos yn fwy gwresog nag Anne Parry. Nis gallwn derfynu y sylw byr hwn am danynt heb ddatgan y parch dyfnaf i'w coffadwriaeth.

Mae amryw o'u plant wedi meirw; ar rhai sydd yn parhau yn fyw wedi hen ymadael â'r ardal y magwyd hwy ynddi. Cyfeiriwyd eisoes at farwolaeth eu merch Elisabeth; a bu farw eu mab Henry yn fachgen ieuanc tra gobeithiol. Yn ŵr ieuanc y bu farw hefyd Owen eu mab ieuangaf. Bu un mab iddynt, Evan, yn dra defnyddiol yn Cesarea, gerllaw y Groeslon, yn Swydd Gaernarfon.; ond y mae yntau hefyd wedi marw ers rhai, blynyddoedd.

Wrth eu gadael hwy, y mae yn naturiol i ni grybwyll chwaer y mae genym gofion serchog am dani, sef Jane Jones, y Briws, neu fel, y gelwid hi yn wastad, Jinny. Jones. Oddigerth Catrin William, nid oedd neb yn fwy rhydd i adrodd ei phrofiad yn y Cyfarfod Eglwysig, na neb yn sicr y byddai yn fwy hyfryd genym ni eu clywed. Nid oedd ei phriod, Robert Jones, yn aelod eglwysig, er ei fod yn wrandawr cyson, ac yn ddyn dichlynaidd ei ymarweddiad; ond dygodd y fam i fyny ei phlant oll yn yr eglwys. Mae un o honynt, Henry, yn byw eto yn y Briws; ac un arall, Robert, yn Abergynolwyn. Y mae amryw o honynt yn Awstralia ers llawer o flynyddoedd.

Hen gymeriad hynod oedd William Hughes, Tŷ ucha. Gallwn gofio yr adeg yr ymunodd â'r eglwys. Gŵr thal, syth, unllygeidiog, ydoedd ef; ac un a fuasai yn ei ieuenctid yn wyllt ac annuwiol. Nid oedd neb yn y gymydogaeth mor hoff ag ef o olrhain achau pobl. Brodor o Sir Gaernarfon.; ydoedd; a phan ddeuai pregethwr o'r sir hono i Aberllefenni a fyddai wedi dechreu pregethu ar ol ei ymadawiad ef, rhaid oedd cael pob gwybodaeth am ei achau. Yr oedd yn atebwr rhydd ar adeg yr holwyddori; ond damwain oedd iddo gael gafael ar yr