Tudalen:Hanes Methodistiaeth Corris a r Amgylchoedd.djvu/178

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

atebiad a ddisgwylid. Ystyrid fod ganddo yn wastad rywbeth dan ei ewin , ond anfynych y llwyddai i'w wneyd yn ddealladwy i eraill.

Yr oedd yntau yn un y cafwyd llawer o ddigrifwch yn y gymdeithas; ond yr oedd y digrifwch bob amser yn eithaf diniwed. Eraill fyddent yn cael y digrifwch, ac anfynych y byddai ef ei hun yn cael unrhyw gyfran o'r mwynhad. Yr oedd yn ddiau yn hen Gristion da. Ychydig cyn marw, torodd allan i orfoleddu, yn gyffelyb i'r modd y gwnai yn amser y diwygiad.

Gerllaw iddo y preswyliai Mathew Davies; ac yn ddiweddar yn ei oes y daeth yntau i mewn i eglwys Dduw. Yn fachgen ieuanc yr oedd yn nwyfus a digrifol; ond collodd y nwyfiant i raddau helaeth cyn yr adeg y gallwn ni ei gofio gyntaf. Bu ei wraig dan afiechyd trwm am flynyddoedd, yr hyn oedd brofedigaeth lem iddo yntau. Dyn o rodiad diargyhoedd ydoedd; ac llu y bu ei fywyd yn hynod o ddidramgwydd i'w holl gymydogion. Dyma ddau deulu nad oes yn y gymydogaeth neb yn perthyn iddynt ers amryw flynyddoedd.

Un arall y gallwn ei gofio yn dyfod i'r eglwys ydyw Owen Hughes, Blue Cottages. Cyn hyny yr oedd yn ddyn caled ac annuwiol, a chyda hyny yn lled anwybodus. Nid oedd yn medru darllen pan y daeth at grefydd; ond trwy lafur cyson, a diwydrwydd canmoladwy, daeth i ddarllen yn weddol rwydd cyn pen llawer o amser. Yr oedd y cyfnewidiad ynddo ef yn amlwg i bawb. Nid oedd yn berffaith yn ddiau fel crefyddwr; ond yr oedd mor wahanol i'r hyn a fuasai o'r blaen fel nad oedd lle i neb a'i hadwaenai ameu gwirionedd ei droedigaeth. Trwy ddamwain yn y chwarel y cyfarfyddodd â'i farwolaeth. Mae ei weddw eto yn aros; ac y mae ei dri mab, Richard, John, a Hugh, a'i bedair merch, Lowri, Margaret, Catherine, ac Anne hefyd yn fyw; ac yn dwyn i fyny deuluoedd lliosog. Bu Jane ei ferch farw yn eneth lled ieuanc.